Bauhaus
Enghraifft o'r canlynol | arddull pensaernïol, symudiad celf, arts educational institution, sefydliad |
---|---|
Math | Neues Bauen |
Daeth i ben | 1933 |
Rhan o | Bauhaus and its Sites in Weimar, Dessau and Bernau |
Dechrau/Sefydlu | 1919 |
Lleoliad yr archif | Bauhaus Archive |
Sylfaenydd | Walter Gropius |
Rhagflaenydd | Weimar Saxon-Grand Ducal Art School |
Olynydd | Prifysgol Bauhaus |
Enw brodorol | das Staatliche Bauhaus |
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Rhanbarth | Dessau-Roßlau, Weimar, Berlin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd y Bauhaus (Almaeneg: bauen "adeiladu" + haus "tŷ") yn goleg celf, cynllunio a pensaernïaeth Almaenig o 1919-1933 a fu'n ddylanwadol ar ddyluniad modern yn ystod ail hanner yr 20g.
Sefydlwyd gan y pensaer Walter Gropius. Ei fwriad oedd uno celf, dylunio a phensaerniaeth.
Syniadaeth
[golygu | golygu cod]Credai sylfaenwyr y Bauhaus roedd angen diwygio'r modd a ystyriwyd celf a phensaernïaeth i fod yn gyfrwng i drawsnewid cymdeithas a chreu gwell bywydau i bobl gyffredin.
Edrychai'r Bauhaus ar ddylunio mewn ffordd wyddonol. Rhoddwyd pwyslais ar godi statws crefftau i’r un lefel â chelf gain a phwysigrwydd dylunio ac ymarferoldeb defnydd ar gyfer cynnyrch masnachol i'r cyhoedd.[1]
Roedd y darlithwyr y Bauhaus yn cynnwys rhai o’r artistiaid mwyaf y cyfnod fel: Herbert Bayer, Lyonel Feininger, Walter Gropius, Johannes Itten, Wassily Kandinsky, Paul Klee, László Moholy-Nagy, Piet Mondrian, Ludwig Mies van der Rohe a Victor Vasarely.
Bu rhaid i fyfyrwyr gymryd cwrs sylfaen yn gyntaf er mwyn astudio egwyddorion craidd.
Penodwyd y peintiwr Johannes Itten ym 1919 i ddatblygu'r cwrs sylfaen. Yn lle copïo ac astudio gwaith arlunwyr enwog fel oedd yr arfer, o dan Itten bu'r myfyrwyr yn arbrofi ac yn archwilio lliw, ffurf, defnyddiau mewn awyrgylch rhydd. Gadwodd Ittens ym 1922 wrth i Gropius rhoi mwy o bwyslais ar dechnoleg a phenodwyd y constuctavist László Moholy-Nagy yn ei le.[2]
Ym 1928 ymddiswyddodd Gropius fel cyfarwyddwr a'i ddilynwyd gan y pensaer Hannes Meyer. Yn parhau gyda'r egwyddor o ddylunio ar gyfer cynhyrchu masnachol eang, ond yn symud i ffwrdd o elfennau o'r cwricwlwm oedd yn teimlo'n rhy ffurfiol gan bwysleisio defnydd cymdeithasol pensaernïaeth er budd y cyhoedd yn hytrach na moethusrwydd preifat. Bu hysbysebu, teipograffi a ffotograffiaeth yn amlwg yn gwaith y Bauhaus o dan ei arweiniad.
Gwrthwynebiad
[golygu | golygu cod]Lleolwyd y Staatliches Bauhaus (Bauhaus Dinesig) yn wreiddiol yn nhref Weimar. Bu tref fach Weimar yn ganolfan llywodraeth Yr Almaen yn dilyn yr Rhyfel Byd Cyntaf.
Adnabyddir y cyfnod rhwng 1919 a 1933 yn yr Almaen fel Cyfnod Gweriniaeth Weimar a fu'n nodweddiadol am rhyddid a chreadigrwydd celfyddydol yn erbyn cefndir o ymladd gan grwpiau gwleidyddol Comiwnyddol ac asgell de, problemau economaidd a thlodi difrifol.
Fel canlyniad i'r problemau hyn, tyfodd gefnogaeth i Adolf Hitler a'r Natsïaid a oedd yn gweld celf fodern yn groes i'w syniadaeth eithafol. Fe gondemnion nhw'r Bauhaus am fod yn Iddewig ac yn gomiwnyddol ac am fod yn Entartete Kunst (sef 'celf ddirywiedig').[3]
Ym 1925 bu rhaid i symud i Dessau oherwydd problemau ariannol a gwrthwynebiad y Natsïaid yn Weimar.
Roedd Dessau'n dref ddiwydiannol gan roi'r cyfle i gydweithio gyda llawer o'r cwmnïau lleol i gynllunio eu cynnyrch. Ym 1928 ymddiswyddodd Gropius fel cyfarwyddwr a'i ddilynwyd gan y pensaer Hannes Meyer. Ond pan daeth y Natsïaid i rym yn Dessau hefyd ymddiswyddodd Hannes Meyer ym 1930.
Roedd rhaid i'w olynydd Ludwig Mies van der Rohe cynnal y sefydliad yn wyneb gwrthwynebiad cynyddol. Bu rhaid symud yr ysgol eto ym 1932, y tro yma i Berlin cyn i'r Natsïaid gorfodi ei chau'n gyfan gwbl y flwyddyn ganlynol.[4]
Dylanwad
[golygu | golygu cod]Gorfodwyd llawer o ddarlithwyr, arlunwyr a myfyrwyr a oedd yn gysylltiedig â'r Bauhaus ffoi o'r Almaen, sawl un i'r Unol Daleithiau fel Walter Gropius i Brifysgol Harvard, a Marcel Breuer a Joseph Albers ym Mhrifysgol Yale.
Wedi'r Ail Ryfel Byd daeth syniadaeth a ddatblygwyd gan y Bauhaus yn un o brif ddylanwadu dylunio a phensaernïaeth Moderniaeth a mae ei ôl i'w weld ar y cynnych, dodrefn, adeiladau, teipograffi, hysbysebion a thechnoleg a defnyddiwn bob dydd heddiw. [5][6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.theartstory.org/movement-bauhaus.htm
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-18. Cyrchwyd 2015-02-12.
- ↑ http://www.arthistoryunstuffed.com/bauhaus-the-fate-of-the-bauhaus/
- ↑ The 20th-Century art book.|year=2001|publisher=Phaidon Press|location=London|isbn=0714835420|edition=Reprinted.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-15. Cyrchwyd 2015-02-12.
- ↑ Bauhaus Culture: From Weimar to the Cold War, Kathleen James-Chakraborty, ISBN 0816646880, ISBN 978-0816646883, University of Minnesota Press (18 July 2006)