Paul Klee

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paul Klee
Paul Klee 1911.jpg
Ffotograff o Paul Klee ym 1911
Ganwyd 18 Rhagfyr 1879(1879-12-18)
Münchenbuchsee,
Swistir
Bu farw 29 Mehefin 1940(1940-06-29) (60 oed)
Muralto,
Swistir
Yn enwog am Athro y Bauhaus
Celf Haniaethol (abstract)
Mynegiadaeth (expressionism)
Galwedigaeth Peintiwr

Roedd Paul Klee (18 Rhagfyr 187929 Mehefin 1940) yn arlunydd Swisaidd-Almaenaidd a fu'n aelod o'r grŵp Blaue Reiter ac yn athro yng ngholeg celf enwog y Bauhaus. Bu ei waith unigryw yn nodweddiadol am eu defnydd ac am ddatblygu'r cysyniad o liw ac mae ei lyfr Ysgrifau ar Ffurf a Chynllunio (Schriften zur Form und Gestaltungslehre) yn cael eu hystyried mor bwysig a gwaith Leonardo da Vinci: y Codex Urbinas a'i ddylanwad aruthrol ar y Dadeni Dysg.[1][2][3] Mae holl waith Paul Klee yn adlewyrchu ei hiwmor sych a'i berspectif plentynaidd o fywyd yn ogystal â'i hoffter o gerddoriaeth a'i anwadalrwydd fel person.[4]

Dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Senecio, 1922

Ganwyd Klee ym Münchenbuchsee, yn agos i dref Bern yn y Swistir; ei dad yn Almaenwr ac yn athro cerddoriaeth, ei fam yn Swiswraig ac yn gantores. O dan ddylanwad ei rhieni bu'r Paul Klee ifanc yn gerddor addawol ond ddatblygodd ei ddiddordeb mewn celf ac yn 1896 fe'i dderbyniwyd i Sefydliad Celf Gain Munich.

Peintiodd mewn olew, dyfrlliw, inc a chyfryngau eraill, gan yn aml eu cyfuno yn yr un darlun. Roedd ei waith yn aml yn cyfeirio at farddoniaeth, cerddoriaeth a breuddwydion, weithiau'n cynnwys geiriau neu nodiadau caneuon.

Ar ôl graddio o'r coleg celf teithiodd i'r Eidal, ac wrth ddychwelyd i Munich cyfarfu â Wassily Kandinsky, Franz Marc, August Macke ac arlunwyr avant-garde eraill a ffurfiodd grŵp celfyddydol y Blaue Reiter (y marchog glas);[5] bu rhain yn ddylanwad mawr ar Fynegiadaeth (Expressionism) Almaeneg yn ddiweddarach. Er nad oedd Klee yn aelod llawn o'r Blaue Reiter arddangosodd ei waith gyda nhw a rhannodd eu diddordeb mewn celf Gothig a mudiadau cyfoes fel Fauve a Chiwbiaeth.

Bu'n rhaid i Klee ymuno â byddin Yr Almaen pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ond nid anfonwyd ef i'r ffrynt. Ond laddwyd Marc a Macke yn y Rhyfel a bu rhaid i Kandinsky ddychwelyd i Rwsia. Cafodd marwolaeth ei ffrindiau effaith mawr arno fel y gwelir mewn gweithiau fel Marwolaeth i'r Syniad (1915).[6]

Paul Klee fel milwr, 1916

Teithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Tŷ Troi , 1921

Ym 1914 ymwelodd â Tiwnis (Tiwnisia) a fu'n hynod o bwysig yn natblygiad ei waith. Yno fe'i syfrdanwyd gan ansawdd a chryfder y golau. Ysgrifennodd yn ei ddyddiadur personol: Mae'r lliw wedi cymryd troseddaf, does dim rhaid imi chwilio amdano, dw i'n gwybod y bydd yn gafael ynof am byth... mae lliw a minnau yr un peth.

Ar ôl dychwelyd o Tiwnis peintiodd ei lun haniaethol cyntaf - Im Stil von Kairoua ("Yn Arddull Kairouan), sydd yn gyfres o gylchoedd a sgwariau lliw. Daeth y sgwâr lliw yn sylfaen i'w waith diweddarach – pob sgwâr a phob lliw yn cyfateb i nodyn cerddorol a'i gynfasau'n cyfateb i gyfansoddiadau cerddorol. Ymwelodd â'r Eidal yn 1901 ac a'r Aifft ym 1928.[7]

Bauhaus[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf penodwyd Klee yn athro yn y Bauhaus - coleg celf, cynllunio a phensaernïaeth enwoca'r Almaeneg rhwng 1919 a 1933, coleg a fu'n ddylanwad aruthrol ar ddyluniad modern yn ystod ail hanner yr 20g.

Daeth y Natsïaid i rym yn yr Almaen ym 1933 gan orfodi'r Bauhaus i gau eu drysau a chondemniwyd gwaith Klee a llawer o arlunwyr eraill yn hallt, gan eu galw'n 'gelf ddirywiedig' (degenerate art). Fel llawer o arlunwyr modern eraill yr Almaen bu'n rhaid i Klee ddianc o'r wlad er mwyn osgoi cael ei garcharu neu hyd yn oed eu lladd.[7]

Alltud[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1933 dychwelodd Klee i'r Swistir ble bu'n byw hyd ddiwedd ei fywyd ym 1940. Bu'n hynodo o weithgar yn y Swistir er gwaethaf salwch ar ddiwedd ei oes. Gadwodd Klee dros 9,000 o weithiau.

Klee a lliw[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyn ei daith i Tiwnis credodd Klee nad oedd lliw yn bwysig ond datblygodd i fod yr elfen bwysicaf yn ei waith. Wedi Tiwnis defnyddiodd Klee liw mewn ffyrdd amrywiol ac unigryw gan ddatblygu ac ymestyn ei dechnegau o hyd.

Yn y Bauhaus dysgodd theori liw i'r myfyrwyr ac ysgrifennodd amdo'n helaeth. Ystyrir ei Schriften zur Form und Gestaltungslehre (Ysgrifennu am ffurf a Theori Cynllunio) yn gyfraniad sylweddol i ddatblygiad a dealltwriaeth o liw mewn celf fodern.[7]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Disegno e progettazione By Marcello Petrignani p.17
  2. Guilo Carlo Argan "Preface", Paul Klee, The Thinking Eye, (ed. Jürg Spiller), Lund Humphries, London, 1961, p.13.
  3. The private Klee: Works by Paul Klee from the Bürgi Collection Scottish National Gallery of Modern Art, Edinburgh, 12 August - 20 October 2000
  4. http://www.paulkleezentrum.ch/ww/en/pub/web_root/act/wissenschaftliches_archiv/biografie/schweizer_ohne_roten_pass.cfm sobre la ciudadania suiza otorgada posteriormente a su muerte
  5. Katharina Erling: Der Almanach Der Blaue Reiter, in: Hopfengart (2000)
  6. A ymddangosodd wrth ochr cerdd Gerg Traki yn 'Zeit-Echo' 1915.
  7. 7.0 7.1 7.2 Partsch, Susanna (2007). Klee. Cologne: Benedikt Taschen. ISBN 978-3-8228-6361-9.

Dolenni allannol[golygu | golygu cod y dudalen]