Wassily Kandinsky

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Wassily Kandinsky
Vassily-Kandinsky.jpeg
Wassily Kandinsky, tua 1913
Ganwyd 16 Rhagfyr, 1866
Moscow,
Bu farw 13 Rhagfyr, 1944
Neuilly-sur-Seine, Ffrainc
Yn enwog am Celf Haniaethol (Abstract)
Galwedigaeth Peintiwr

Bu Wassily Wassilyevich Kandinsky - Васи́лий Васи́льевич Канди́нский, Vasiliy Vasil’yevich Kandinskiy, (16 Rhagfyr 1866 - 13 Rhagfyr 1944) yn arlunydd arloesol, cydnabuwyd am greu rhai o'r peintiadau haniaethol (Abstract) pur cyntaf.[1]

Yn fab i deulu busnes gweddol gyfoethog, treiodd ei blentyndod yn Odessa. Rhwng 1886 a 1889 astudiodd y gyfraith ac economeg ym Moscow. Dechreuodd arlunio'n 30 oed ac ym 1896 gan wrthododd gynnig proffesoriaeth yn y gyfraith ym Mhrifysgol Dorpat er mwyn fynd i Munich i astudio mewn ysgol gelf breifat ac wedyn Academi Celf Gain y ddinas.[2]

Dychwelodd i Foscow ym 1914 wedi dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn anfodlon gyda theorïau swyddogol y llywodraeth Bolsiefic newydd yn dilyn Chwyldro Rwsia ym 1917 dychwelodd i'r Almaen yn 1921. Bu'n athro yn yr ysgol gelf arloesol y Bauhaus nes iddo gael ei gau gan y Natsïaid ym 1933 a oedd yn gweld celf fodern yn groes i'w syniadaeth eithafol. Symudodd i Ffrainc gan ddod yn ddinesydd Ffrengig ym 1939.

Gwaith cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Der Blaue Reiter (Y Marchog Glas) 1903

Yn dilyn ei astudiaethau llwyddiannus o'r gyfraith ac economeg, fe lwyddodd hefyd yn ei astudiaethau yng ngholeg Gelf Munich. Ymwelodd â'r Eidal, Yr Iseldiroedd ac Affrica gan arddangos ei waith ym Berlin ym 1902 a Paris ym 1904.

Roedd ei ddarluniau o ddechrau'r ganrif yn dirweddau a beintiwyd gyda spatiwla gan wneud darnau mawr fflat o'r llun yn un lliw llachar, yn debyg i arddull dwys, y grŵp Fauve[1].

Gweler yn ei waith cynnar yn symudiad tuag at theorïau haniaethol gyda lliwiau'n cael eu cyflwyno ar wahân i'r ffurfiau.

Ceunant Byrfyfyr (Improvisation) 1914

Fu'n gymorth i ffurfio'r Neue Künstlervereinigung München (NKVM) – Grŵp Arlunwyr Newydd Munich gan ddod yn llywydd ym 1909[3]. Ond fethodd y grŵp cyfuno â syniadau radicalaidd Kandinsky ac eraill gydag agweddau mwy traddodiadol ac fe roddwyd y gorau i'r grŵp ym 1911.

Ffurfiodd Kandinsky grŵp newydd Der Blaue Reiter (Y Marchog Glas) gydag Franz Marc, August Macke ac eraill a fu'n dylanwad mawr ar Mynegiadaeth (Expressionism) Almaeneg yn ddiweddarach.

Fe laddwyd Marc a Macke yn y Rhyfel Byd Cyntaf a bu rhaid i Kandinsky ddychwelyd i Rwsia.[4]

Wassily Kandinsky, Byrfyfyr (Improvisation) 27 (Gardd Gariad II), 1912, olew ar gynfas (120.3 x 140.3 cm), Amgeuddfa Gelf Metropolitan, Efrog Newydd. Arddangoswyd yn yr Armory Show, 1913.

Gwaith haniaethol a'r Bauhuas[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ei ddatblygiad tuag at waith cwbl haniaethol, cafodd Kandinsky ei ddylanwadu gan yr hanesydd celf Wilhelm Worringer a'i waith Abstraktion und Einfühlung (Haniaeth ac Empathi), 1908 yn dadlau nad oedd yr hierarchaeth arferol o werthoedd, yn seiliedig ar y deddfau'r Dadeni bellach yn ddilys wrth ystyried y gelf o ddiwylliannau eraill.[5]

Fel yr arlunydd haniaethol Piet Mondrian roedd Kandinsky hefyd yn ymddiddori yn Theosoffi, athroniaeth a oedd yn boblogaidd ar y pryd ymhlith rhai arlunwyr a deallusion. Sefydlwyd gan Helena Petrovna Blavatsky ar ddiwedd y 19eg canrif roedd y mudiad Theosoffi yn credu bod gwirionedd wedi'i guddio y tu ôl i'r wyneb ac felly'n darparu rhesymeg amlwg i gelfyddyd haniaethol.[6]

Ym 1913 arddangosodd Kandinsky y darlun Byrfyfyr (Improvisation) 27 (Gardd Gariad II) yn yr Armory Show yn Efrog Newydd ac fe welir yn glir ei symudiad i greu darlun haniaethol gydag elfennau'r darlun wedi'u symleiddio i'w siapiau craidd.

Wedi iddo orfod gadael yr Almaen i ddychwelyd i Rwsia bu Kandinsky'n gweithio fel addysgwr celf ar ran y llywodraeth newydd Bolsieficaidd gan helpu ail drefnu ysgolion celf y wlad. Ym 1920 bu'n un o sylfaenwyr INKhUK (Sefydliad Diwylliant Celf) ond yn fuan bu'n dadlau gyda'r arlunwyr lluniadaeth (constructivist) Kazimir Malevich, Vladimir Tatlin, Varvara Stepanova ac Alexander Rodchenko a oedd yn gomiwnyddion brwdfrydig yn credu mewn defnyddio celfyddyd fel ffordd i adeiladu dyfodol gwell i bobl gyffredin.

Yn dilyn tensiynau gydag arlunwyr Rwsia a diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf derbyniodd Kandinsky gwahoddiad Walter Gropius i fod yn athro yng ngholeg celf a phensaernïaeth newydd y Bauhaus (Gweithdy) yn Weimar.

Dysgodd Kandinsky y dosbarthiadau cynllunio a chwrs ar theori uwch, hefyd bu'n arwain y dosbarthiadau peintio a dadleuodd dros ei theori lliw newydd. Datblygodd ei waith i fod yn haniaethol pur a chywyddwyd ei ail lyfr Punkt und Linie zu Fläche (Pwynau a Llinell i Blên) ym 1926.[7]

Daeth elfennau geometrig yn fwy amlwg yn ei waith yn arbennig y cylch, hanner cylch, llinellau syth a chromliniau a bu'r cyfnod yn nodweddiadol o'i thriniaeth o liwiau cyfoethog a graddiadau o liw.

Datblygodd y Bauhaus i fod yn hynod o allweddol, yn dylanwadu cynllunio, teipograffi a pansaerniaeth modern ac addysg gweledol trwy ail hanner yr 20fed ganrif. Caewyd y Bauhaus ym 1933 gan y Natsïaid ym 1933 a oedd yn gweld celf fodern yn groes i'w syniadaeth eithafol. Fel llawer o ddarlithwyr ac arlunwyr a oedd yn gysylltiedig â'r Bauhaus bu rhiad iddo ffoi o'r Almaen.

Condemwyd 57 o waithiau Kandinsky'n Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsïad a'u hatal rhag eu harddangos yn gyhoeddus.[3]

O 1933 bu Kandinsky yn byw ym Paris, yn dal i ddilyn ei yrfa fel arlunydd hyd ddiwedd ei oes ym 1944.[2]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]