Kazimir Malevich
Kazimir Malevich | |
---|---|
Ganwyd | Казиміръ Малевичъ 11 Chwefror 1879 (yn y Calendr Iwliaidd) Kyiv |
Bu farw | 15 Mai 1935 St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, gwneuthurwr printiau, athro, cynllunydd llwyfan, dylunydd gwisgoedd, drafftsmon, damcaniaethwr celf, cynllunydd, artist, hanesydd celf, addysgwr |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Black Square, Suprematist Composition, Suprematist Composition: White on White, An Englishman in Moscow, The Knife Grinder |
Arddull | scenography, paentio, celf haniaethol, bywyd llonydd, celf ffigurol |
Mudiad | Swprematiaeth, Russian avant-garde, Adeileddiaeth |
Priod | Kazimiera Sgleitz, Sofia Rafalovich |
Peintiwr a damcaniaethwr celf o Rwsia oedd Kazimir Severinovich Malevich (Rwsieg: Казими́р Севери́нович Мале́вич; 23 Chwefror 1879 – 15 Mai 1935). Roedd yn artist avant-garde, arloeswr celf haniaethol a phrif sylfaenydd y mudiad celfyddydol Swprematiaeth yn seiliedig ar ffurfiau geometrig, fel cylchoedd, sgwariau a llinellau wedi'u peintio mewn dewis cyfyngedig o liwiau.[1][2]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe ganwyd Kazimir Malevich yn Kazimierz Malewicz i deulu Pwylaidd a oedd wedi symud i fyw yn agos i Kyiv (pryd hynny'n rhan o Ymerodraeth Rwsia; yn Wcráin heddiw) ar ôl ymraniad Gwlad Pwyl.
Swprematiaeth
[golygu | golygu cod]Yn 1915 fe osododd Malevich sylfaeni Swprematiaeth pan gyhoeddodd ei maniffesto O Giwbiaeth i Swprematiaeth. Yn 1915-1916 gweithiodd gydag arlunwyr Swprematyddol eraill mewn prosiect cydweithredol, gwerinol ym mhentrefi Skoptsi a Verbovka. Yn 1916-1917 cymerodd ran yn yr arddangosfa 'Jac o Ddiemyntau' ym Moscow gyda Nathan Altman, David Burliuk, Aleksandra Ekster ac eraill.
Mae enghreifftiau enwog o'i waith Swprematyddol yn cynnwys y Sgwâr Du' (1915) a Gwyn ar Wyn (1918).
Mae'r term "Swprematiaeth" yn cyfeirio at gelfyddyd haniaethol yn seiliedig ar "oruchafiaeth deimlad artiffisial pur" yn hytrach nag ar ddarluniau gweledol o wrthrychau.
Wedi Chwyldro Rwsia
[golygu | golygu cod]Yn dilyn Chwyldro Rwsia (1917), fe ddaeth Malevich yn aelod o Goleg Gelf Narkompros, a Chomisiynwr y Pwyllgor Gwarchod Cofebion ac Amgueddfeydd. Dysgodd yn Ysgol Gelf Ymarferol Vitebsk yn yr Undeb Sofietaidd (yn awr yn Belarws) (1919–1922), Academi Celf Leningrad (1922–1927), a Sefydliad Celf Kiev (1927–1929), ac Ysgol Gelf Leningrad (1930).
Ysgrifennodd ei lyfr Y Byd Fel Di-wrthrychaeth, a gyhoeddwyd ym München ym 1926. Ynddo mae Malevich yn amlinellu syniadaeth 'Swprematiaeth'.
Yn 1923 fe benodwyd Malevich yn gyfarwyddwr yn Sefydliad Diwylliant Celfyddydol Petrograd, a gafodd ei orfodi i gau ym 1926 ar ôl i bapur newydd Comiwnyddol ei alw yn "fynachdy dan nawdd y llywodraeth yn llawn pregethu meddwol gwrth-chwyldroadol."
Roedd y system Stalinaidd yn dechrau troi i hyrwyddo celfyddyd propaganda Realaeth fel yr unig ffuf celfyddydol derbynniol.
Cydnabyddiaeth rhyngwladol a gwaharddiad
[golygu | golygu cod]Ym 1927 fe deithiodd Malevich i Warsaw lle derbyniodd groeso brwd. Yno cyfarfu ag arlunwyr a'i gyn-fyfyrwyr Władysław Strzemiński a Katarzyna Kobro, oedd yn creu gwaith wedi'i ddylanwadu gan Malevich yn eu mudiad eu hun sef Unism.
Fe aeth Malevich ymlaen i Berlin a München i arddangos ei waith gan dderbyn sylw rhyngwladol. Fe adawodd lawer o waith ar ôl pan ddychwelodd i'r Undeb Sofietaidd. Roedd Malevich yn rhagweld y byddai agweddai'r awdurdodau tuag at gelf fodern yn newid yn dilyn marwolaeth Lenin. Fe ddechreuodd llywodraeth Stalin rwystro celf haniaethol, gan ei hystyried yn bourgeois. Cafodd llawr o'i waith ei gipio ac fe waharddwyd rhag creu rhagor.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Malevich o ganser yn Leningrad ar 15 Mai 1935. Arddangoswyd y 'Sgwâr Du' uwchben ei wely angau, ac roedd galarwyr yn gallu chwifio baner yn dangos y 'Sgwâr Du'. Fe gladdwyd o dan dderwen wrth ymyl Nemchinovka.[3]
Marchnad gelf
[golygu | golygu cod]Ar 3 Tachwedd 2008 fe dorrwyd y record am bris uchaf a dalwyd am ddarn o gelf Rwsiaidd pan werthwyd un o weithiau Malevich, Cyfansoddiad Swprematyddol am US$60 miliwn yn Sotherby's, Efrog Newydd.
Mewn diwylliant poblogaidd
[golygu | golygu cod]Mae Malevich a'i waith yn ysbrydoli llawer o gyfeiriadau mewn diwylliant poblogaidd.
- Mae'r nofel boblogaidd Red Square gan Martin Cruz yn ymwneud â smyglo darlun Malevich o Rwsia
- Mae'r nofel The Art Thief gan Noah Charney yn hanes dwyn gwaith Malevich ac yn trafod effaith gwaith radicalaidd Malevich ar y byd celf.
- Mae gwaith Malevich hefyd yn amlwg yn ffilm Lars Von Trier Melancholia, 2011.
- Mae'r grŵp roc-diwydiannol Slofenaidd Laibach wedi defnyddio'r “Sgwâr Du” yn eu logo a phosteri.
- Defnyddiodd label recordiau Cymraeg Recordiau Ankst logo a chefndir i'w wefan a ddylanwadwyd gan Malevich.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Merch y Blodau, 1903
-
Ymdrochwyr, 1908
-
Gaeaf, 1909
-
Cynaeafu'r Rhyg, 1911
-
Hogwr y Cyllyll, 1912
-
Pen Merch Werinol, 1912-1913
-
Biwro ac Ystafell, 1913
-
Portread Matiushin, 1913
-
Buwch a Ffidil, 1913
-
Sais ym Moscow, 1914
-
Cyfansoddiad gyda'r Mona Lisa, 1914
-
Sgwâr Du, tua.1923
-
Cylch Du, 1915,
-
Sgwâr Goch: Realaeth ddarluniol o ferch werinol mewn dau ddimensiwn, 1915.
-
Darlun Swprematyddol: Wyth Hirsgwar Coch, 1915
-
Swprematyddol, 1916
-
Swprematyddol, 1921-1927
-
Bachgen, 1928-1932
-
Marchogion Coch, 1928-1932
-
Tirwedd Haf, 1929
-
Lladdwr gwair, 1930
-
Cyflwyniad cymhleth: Hanner ffigwr mewn crys melyn, 1928-1932
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "A Dictionary of Twentieth-Century Art". Encyclopedia.com. Cyrchwyd 2014-03-18.
- ↑ "The Columbia Encyclopedia, Sixth Edition". Encyclopedia.com. Cyrchwyd 2014-03-18.
- ↑ "Malevich’s Burial Site Is Found, Underneath Housing Development", New York Times, 30 Awst 2013
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Kasimir Malevich, The Non-objective World, cyf. Howard Dearstyne (Chicago: Paul Theobald, 1959)
- John Milner, Kazimir Malevich and the Art of Geometry (New Haven: Yale University Press, 1996)
- Andrei Nakov, Kasimir Malevich, Catalogue raisonné (Paris: Adam Biro, 2002)
- Matthew Drutt, Kazimir Malevich: Suprematism (Efrog Newydd: Guggenheim Museum, 2003)
- Gilles Néret, Kazimir Malevich and Suprematism 1878-1935 (Taschen, 2003)
- Andrei Nakov, Kasimir Malevich, le peintre absolu (Paris: Thalia Édition, 2007)
- Aleksandra S. Shatskikh a Marian Schwartz, Black Square: Malevich and the Origin of Suprematism (New Haven: Yale University Press, 2012)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Darluniau Kazimir Malevich
- Guggenheim: Kazimir Malevich Archifwyd 2008-05-12 yn y Peiriant Wayback
- "White on White" Archifwyd 2005-11-26 yn y Peiriant Wayback
- DA Collection Archifwyd 2012-12-02 yn y Peiriant Wayback
- Kazimir-Malevich.org - 128 darn o waith Kazimir Malevich Archifwyd 2020-12-19 yn y Peiriant Wayback
- Das schwarze quadrat (Y Sgwâr Du) - Arddangosfa Kunsthalle Hamburg Archifwyd 2020-05-13 yn y Peiriant Wayback
- Sergei V. Ivanov. The Leningrad School of Painting