Laibach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canwr Milan Fras gyda Mina Špiler, Laibach, yn perfformio yn Le Trabendo, Paris, 8 Mawrth 2014.
Aelodau Laibach, 2011

Mae Laibach yn grŵp cerddorol avant-garde o Slofenia yn enwog am steil milwrol, diwydiannol a neo clasurol.

Mae delwedd y band yn fwriadol anghyffyrddus i'r cyhoedd gan fenthyg amrywiaeth fawr o bropaganda, celfyddyd a dillad ffasgaidd, dyfodoliaeth, totalitaraidd a chomiwnyddol y 1930au-1950au.

Mae Laibach yn adnabyddus am beidio â gwadu neu gadarnhau os ydyn nhw yn gefnogol totalitariaeth neu'n barodi .

Bu Laibach yn y newyddion am fod y grŵp gorllewinol cyntaf i gael y cyfle i berfformio yn Nghogledd Corea.[1]. Chwaraeodd y band dwy gyngerdd yn Awst, 2015 yn y brif ddinas Pyongyang fel rhan o ddathliadau 70 mlynedd ers rhyddhau Gogledd Corea o reolaeth Japan[2]

Mae'r enw Laibach yw'r gair Almaeneg am brif ddinas Slofenia Ljubljana a orfodwyd gan luoedd Almaenig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Laibach 1983. Roedd awdurdodau Iwgoslafia yn anhapus gyda delwedd y band

Ffurfiwyd ym 1980 fel y rhan gerddorol o fudiad celfyddydol Neue Slowenische Kunst - NSK (Almaeneg: Celfyddyd Newydd Slofenaidd) yn nhref lofaol Trbovlje, Slofenia a oedd pryd hynny'n rhan o Iwgoslafia Comiwnyddol.[3]

Er i Iwgoslafia fod yn un o'r llywodraethau comiwnyddol mwyaf agored[4], cafodd berfformiadau cynnar Laibach eu gwahardd gan yr awdurdodau a oedd yn anfodlon gydag enw a delweddau'r grŵp, yn arbennig logo'r band - sydd yn seiliedig ar ddarlun y Groes Ddu (1923) gan Kazimir Malevich, a'u dillad partisan Slofenaidd.

Ym 1982 cyflawnodd ganwr gwreiddiol y band Tomaž Hostnik hunanladdiad seremonïol trwy grogi ei hun ar un o symbolau cenedlaethol cryfach Slofenia y kozolc.[5]

Llwyddiant rhyngwladol[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1984 symudodd aelodau'r band i Lundain i weithio fel adeiladwyr ac fel actorion ecstra mewn ffilm Stanley Kubrick Full Metal Jacket. Rhyddhawyd eu hail record hir Nova Akropola gan y cwmni Cherry Red a'u trydydd Opus Dei gan gwmni Mute. Cafodd y grŵp eu herlyn yn y llys yn aflwyddiannus gan y mudiad gatholig ffwndamentalaidd Opus Dei.[6]

Chwaraewyd yn gyson ar raglen John Peel ar BBC Radio 1 yn arbennig eu parodiau o ganeuon llwyddiannus y cyfnod Live is Life gan Opus ac One Vision (Geburt Einer Nation) gan Queen yn droi'r ddwy gân fasnachol poblogaidd i fod yn anthemau milwrol totalitaraidd.[7][8]

Dangoswyd fideo Geburt Einer Nation ar y gyfres cyntaf o Fideo 9 ar S4C ym 1988.

Ar ddiwedd yr 80au rhyddhawyd yr LP Let it Be, fersiwn Laibach o record y Beatles, eto trowyd y caneuon i ardull anghyfforddus neu fygythiol.[9]

Hefyd rhyddhawyd yr LP Sympathy for the Devil, casglaid o fersiynnau o gân 1968 y Rolling Stones yn cynnwys sawl 'dance mix'.[10]

Mae recordiau eraill Laibach yn cynnwys eu fersiynau o The Final Countdown gan Europe, In the Army Now gan Status Quo, opera roc Andrew Lloyd Weber Jesus Christ Superstar [11] a fersiwn o The Ride Of The Valkyries gan Richard Wagner mewn cydweithrediad â cherddorfa Radio Teledu Slofenia o'r enw VolksWagner.

Yn 2004 rhyddhawyd yr LP Volk gyda fersiynnau o anthemau cenedlaethol sawl gwlad.[12]

Yn 2012 recordiwyd Laibach y cerddoriaeth ar gyfer y ffilm Iron Sky. Ffilm am griw o Natsïaid a lwyddodd ddianc yr Almaen ym 1945 i fyw ar ochr dywyll y lleuad ond i ddod yn ôl i ail-concro'r ddaear[13]

Yn 2014 rhyddhawyd yr LP Spectre gyda'r caneuon Europe is Falling Apart yn cyfeirio at broblemau cyfoes Ewrop a Whistleblowers yn cyfeirio at achosion WikiLeaks ac Edward Snowden.[14]

Gwladwriaeth NSK[golygu | golygu cod y dudalen]

Logo NSK

Ers 1991 mae'r mudiad celfyddydol Neue Slowenische Kunst - NSK (Almaeneg: Celfyddyd Newydd Slofenaidd) wedi datgan eu bod yn wladwriaeth ac yn cyhoeddi pasbort swyddogol i ymgeiswyr llwyddiannus. Maent hefyd wedi agor nifer o lysgenadaethau ar draws y byd.[15]

Dyfyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Laibach yn adnabyddus am beidio â gwadu neu gadarnhau os ydyn nhw yn gefnogol neu'n barodi o dotalitariaeth gydag aelodau'r band wastad yn aros yn eu cymeriadau llwyfan ar gyfer cyfweliadau.

Pan gofynnwyd iddynt os oeddent yn ffasgwyr eu hateb oedd “We are fascists as much as Hitler was a painter”[16]

Pan gofynnwyd Labaich am eu prif dylanwdau atebwyd - “Tito, Toto a Tati” (Tito yn arweinydd comiwnyddol Iwgoslafia, Toto yn fand 'soft rock' Americanaidd a Tati yn Jacques Tati, digrifwr Ffrangeg).[17]

Yn ôl yr athronydd Slofiniadd Slavoj Žižek mae gofyn os yw Laibach yn eironig neu beidio'n methu pwynt. Mae Žižek yn dadlau ein bod yn byw mewn oes ble mae pobol yn cadw pellter eironig oddi wrth eu 'meistri gwleidyddol' ac eu hideoleg. Mae or-brwdfrydedd Laibach dros beryglon grym ac ideoleg yn llawer fwy tanseiliol. Beth sydd yn gwneud Laibach yn nodweddiadol yw eu bod yn ymddangos i gymryd y system, grym ac ideoleg llawer yn fwy o ddifrif nac mae'r system eu hun yn ei wneud.[18]

Ysgrifennodd Richard Wolfson am Laibach:

Laibach's method is extremely simple, effective and horribly open to misinterpretation. First of all, they absorb the mannerisms of the enemy, adopting all the seductive trappings and symbols of state power, and then they exaggerate everything to the edge of parody...[19]

Aelodau Labiach 2015[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Milan Fras - canwr
  • Ivan Novak – golau a taflunyddion
  • Mina Špiler - llais, syntheseinydd
  • Janez Gabrič - drymiau
  • Luka Jamnik - syntheseinydd
  • Rok Lopatič - syntheseinydd

Cysylltiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Discograffi[golygu | golygu cod y dudalen]

LP Stiwdo[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Laibach (1985)
  • Nova Akropola (1986)
  • Opus Dei (1987)
  • Kapital (1992)
  • Jesus Christ Supertars (1996)
  • WAT 2003)
  • Volk' (2006)
  • Spectre (2014)
  • Also Sprach Zarathustra (2017)

LP Fersiwn[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Let It Be (1988)
  • Sympathy for the Devil (1989)
  • NATO (1994)
  • Laibachkunstderfuge (2008)

Cerddoriaeth ffilm[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Krst pod Triglavom - Baptism/Klangniederschrift Einer Taufe (1986)
  • Macbeth (1990)
  • Iron Sky (2012)

Aml-gyfrannog[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rekapitulacija 1980-1984 (1985)
  • Slovenska Akropola (1987)
  • M.B. December 21, 1984 (1997)
  • Anthems (2004)
  • An Introduction To... Laibach' (2012)

LP Byw[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Neu Konservatiw (1985 / 2003)
  • The Occupied Europe Tour 83-85 (1986)
  • Ljubljana-Zagreb-Beograd (1993)
  • The John Peel Sessions (2002)
  • Volk Tour London CC Club 16 April 2007 (2007).
  • Monumental Retro-Avant-Garde - Live at London Tate Modern 14 April 2012 (2012)

Sengl 7 modfedd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Life Is Life / Germania (Mute, 1987, Llundain)
  • Sympathy For The Devil / Sympathy For The Devil (2 fersiwn) (Mute, 1988, Llundain)
  • Across The Universe / Auf der Lüneburger Heide/Maggie Mae (Mute, 1988, Llundain)

Sengl 12 modfedd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Boji / Sila / Brat Moj (L.A.Y.L.A.H. (gyda Les Disques Du Crepuscule), 1984, Bruxelles)
  • Panorama / Decree (East-West Trading Comp. (Cherry Red), 1984, Llundain)
  • Die Liebe / Groesste Kraft (Cherry Red, 1985)
  • One Vision|Geburt Einer Nation / Leben Heisst Leben (Mute, 1987, Llundain)
  • Life Is Life / Germania / Life (Mute, 1987, Llundain)
  • Sympathy For The Devil 1 / Laibach, 300.000 V.K. (Mute, 1988, Llundain)
  • Sympathy For The Devil 2 / Germania, 300.000 V.K. (Mute, 1988, Llundain)
  • Sympathy For The Devil (2 fersuwb) (Mute, 1988, Llundain)
  • Across The Universe / Maggie Mae / Get Back (Mute, 1988, Llundain)
  • 3. Oktober / Geburt Einer Nation (live) Mute / Intercord Gmbh, 1990, Llundain/ Stuttgart)
  • Wirtschaft Ist Tot / Wirtschaft Ist Tot (Mute, 1992, Llundain)
  • The Final Countdown (Mute, 1994, Llundain)
  • In the Army Now / War (Mute, 1995, Llundain)
  • God Is God (Mute, 1996, Llundain)
  • Tanz Mit Laibach (Mute, 2004, Llundain)
  • Das Spiel Ist Aus (Mute, 2004, Llundain)
  • Anglia (Mute, 2006, Llundain)

Sengl CD[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Sympathy For The Devil / Sympathy For The Devil / Sympathy For The Devil (3 fersiwn) Mute, 1988, Llundain)
  • Across The Universe / Maggie Mae / Get Back (Mute, 1988, Llundain)
  • Panorama / Die Liebe / Decree / Groesste Kraft (Cherry Red, 1989, Llundain)
  • 3. Oktober / Geburt Einer Nation (live) Mute / Intercord Gmbh, 1990, London / Stuttgart)
  • Wirtschaft Ist Tot / Wirtschaft Ist Tot (Mute, 1992, Llundain)
  • Final Countdown / Final Countdown (Mute, 1994, Llundain)
  • In The Army Now / War (Mute, 1995, Llundain)
  • Jesus Christ Superstar / God Is God (Mute, 1996, Llundain)
  • Tanz Mit Laibach (Mute, 2004, Llundain)
  • Das Spiel Ist Aus (Mute, 2004, Llundain)
  • Anglia (Mute, 2006, Llundain)
  • 1 VIII 1944 (Narodowe Centrum Kultury, 2014, Warsaw)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]