Richard Wagner
Gwedd
| Richard Wagner | |
|---|---|
Ffotograff o Richard Wagner (1871) gan Franz Hanfstaengl (1804–1877) | |
| Ffugenw | K. Freigedank, H. Valentino |
| Ganwyd | Wilhelm Richard Wagner 22 Mai 1813 Leipzig |
| Bu farw | 13 Chwefror 1883 Fenis |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Sachsen, Yr Almaen, Y Swistir, Yr Eidal, Awstria |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | cyfansoddwr, libretydd, arweinydd, awdur ysgrifau, cyfarwyddwr theatr, hunangofiannydd, bardd, pianydd, beirniad cerdd, dyddiadurwr, ysgrifennwr |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Der fliegende Holländer, Tristan und Isolde, Tannhäuser, Das Rheingold, Lohengrin, Der Ring des Nibelungen |
| Arddull | opera, choral symphony, cerddoriaeth glasurol |
| Prif ddylanwad | Arthur Schopenhauer |
| Tad | Carl Friedrich Wagner |
| Mam | Johanna Rosina Wagner-Geyer |
| Priod | Cosima Wagner, Minna Planer |
| Plant | Siegfried Wagner, Isolde Wagner |
| Perthnasau | Franziska Wagner |
| Llinach | Wagner family |
| Gwobr/au | Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf |
| llofnod | |
Cyfansoddwr dylanwadol o'r Almaen oedd Wilhelm Richard Wagner (22 Mai 1813, Leipzig – 13 Chwefror 1883, Fenis). Roedd hefyd yn arweinydd a theorydd cerddorol, ac yn draethodydd, ond fe'i cofir yn bennaf am ei operâu, yn arbennig cylch Der Ring des Nibelungen (Modrwy y Nibelung).
Priododd Christine Wilhelmine "Minna" Planer yn 1836.
Ymddengys nad oes sail i honiad George Powell bod Wagner wedi aros yn Nanteos, plasdy'r Poweliaid yng Ngheredigion, a chael ei ysbrydoli i gyfansoddi ei opera Parsifal ar ôl yfed o'r "Greal Santaidd", cwpan ym meddiant y teulu. Roedd Powell yn hoff iawn o waith Wagner ond ymwelodd y cyfansoddwr â gwledydd Prydain yn 1855, tua deng mlynedd cyn iddo ysgrifennu Parsifal.[1]
Operâu
[golygu | golygu cod]Cyfnod cynnar
[golygu | golygu cod]- (1832) Die Hochzeit (Y Briodas) (anorffenedig)
- (1833) Die Feen (Y Tylwyth Teg)
- (1836) Das Liebesverbot (Y Gwaharddiad ar Gariad)
- (1837) Rienzi, der Letzte der Tribunen (Rienzi, y Tribwn olaf)
Cyfnod canol
[golygu | golygu cod]- (1843) Der fliegende Holländer (Yr Holandwr Hedegog)
- (1845) Tannhäuser
- (1850) Lohengrin
Cyfnod diweddar
[golygu | golygu cod]- (1865) Tristan und Isolde (Tristan ac Esyllt)
- (1867) Die Meistersinger von Nürnberg (Meistr-gantorion Nuremberg)
- Der Ring des Nibelungen (Modrwy y Nibelung), yn cynnwys:
- (1869) Das Rheingold (Aur y Rhein)
- (1870) Die Walküre (Y Valkyrie)
- (1871) Siegfried
- (1874) Götterdämmerung (Gwyll y Duwiau) (yn wreiddiol Siegfrieds Tod (Marwolaeth Siegfried)
- (1882) Parsifal
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. Nanteos.