Dyfodoliaeth
Delwedd:Dynamism of a Biker (1913) by Umberto Boccioni.jpg, Aldo Palazzeschi, Carlo Carrà, Giovanni Papini, Umberto Boccioni, Filippo Tommaso Marinetti, 1914.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1909 |
Sylfaenydd | Filippo Tommaso Marinetti |
Gwladwriaeth | yr Eidal, Rwsia, Gwlad Pwyl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Dyfodoliaeth (Saesneg: Futurism, Eidaleg Futurismo) yn fudiad celfyddydol a diwylliannol yn yr Eidal ar ddechrau’r 20g a geisiai ddisodli ffurfiau traddodiadol a chyfleu yn eu lle, symudiad, grym ac egni prosesau mecanyddol.[1]
Er yn ffenomen Eidalaidd yn bennaf, bu symudiadau tebyg yn Rwsia, Ffrainc a nifer o wledydd eraill.
Archwiliodd y Dyfodolwyr amrywiaeth fawr o gyfryngau, o beintio i gerflunio, llenyddiaeth, barddoniaeth, theatr, cerddoriaeth, pensaernïaeth, dawns, ffotograffiaeth, ffilm a hyd yn oed gastronomeg.
Maniffesto Marinetti
[golygu | golygu cod]Prif sylfaenydd mudiad y Futuristi oedd y bardd Filippo Tommaso Marinetti a ysgrifennodd am 'harddwch cyflymdra' ac am 'chwalu amgueddfeydd a llyfrgelloedd' am iddyn nhw fod yn perthyn i ddiwylliant traddodiadol. Roedd am weld celfyddyd yn datblygu'n barhaus i'r dyfodol. Y newydd sbon disodli'r diweddaraf yn am iddi fod yn sych a statig a pherthyn i'r gorffennol yn barod.
Cyhoeddodd ei Manifesto del Futurismo ym 1908 a ymddangosodd yn gyntaf mewn cyfrol o farddoniaeth a gyhoeddwyd ym Milan ym ac wedyn mewn papur newydd Eidalaidd Gazzetta dell'Emilia. Ail-gyhoeddwyd y maniffesto yn Ffrangeg ar dudalen flaen Le Figaro, un o brif bapurau newydd Ffrainc, ar 20 Chwefror, 1909.
Y Maniffesto Syflaenu Prif pwyntiau Manifesto del Futurismo, gan Filippo Tommaso Marinetti, 1908-9 [2]
- Bwriadwn ganu am gariad at berygl, yr arferiad o egni a dewrder.
- Arwriaeth, beiddgarwch a gwrthryfel bydd elfennau hanfodol ein barddoniaeth.
- Hyd yma mae llenyddiaeth wedi addoli'r meddylfryd llonydd, ecstasi a chwsg. Bwriadwn gymell gweithredoedd ymosodol, anhunedd cynddeiriog, troed y rhedwr, y naid angheuol, y pwniad a'r bonclust.
- Cadarnhawn bydd ysblennydd y byd yn fwy cyfoethog gyda harddwch newydd; harddwch cyflymdra. Car rasio ei foned wedi addurno gyda phibellau mawrion, fel seirff anadl ffrwydrol - mae car taranog fel marchog ar saeth yn fwy hyfryd na Buddugoliaeth Samothrace.
- Dymunwn emyn i ddyn wrth yr olwyn llyw, sydd yn taflu gwaywffon ei enaid ar draws y ddaear, ar hyd cylch y blaned.
- Rhaid i'r bardd ei dreulio ei hun gyda thân, ysblennydd a haelioni i chwyddo awydd brwd yr elfennau cyntefig.
- Heb frwydr, nid oes harddwch fwy. Nid oes modd i waith heb gymeriad ymosodol fod yn waith-feistr. Rhaid creu barddoniaeth fel ymosodiad treisgar ar rymoedd anwybodus, i'w lleihau a'u llorio o flaen dyn.
- Safwn ar benrhyn olaf y canrifoedd! Paham y dylem edrych yn ôl, pan rydan ni am dorri lawr drysau dirgel yr amhosib? Bu farw amser a lle ddoe. Rydan ni'n byw'n barod yn y diamod, gan ein bod wedi creu cyflymdra tragwyddol, hollalluog.
- Bydden ni'n clodfori rhyfel – unig hylendid i'r byd – milwriaeth, gwladgarwch, arwydd dinistriol yr ymladdwyr rhyddid, syniadau hyfryd gwerth marw drostynt, a dirmyg i ferched.
- Rydan ni am ddinistrio amgueddfeydd, llyfrgelloedd, academïau o bob math, ymladdwn foesoldeb, ffeministiaeth, pob llyfrdra oportiwnistiaeth ac iwtilitariaeth.
- Canwn o dorfeydd mawrion, wedi'u cyffroi gan waith, gan bleser a'r terfysg; canwn am y llanw aml-liw, polyffonig o chwyldro mewn prif ddinasoedd modern; canwn i'r awydd nwyfus pob nos o ffatrïoedd arfau ac iardiau llongau'n llosgi gyda lleuadau trydanol treisgar; gorsafoedd rheilffordd drachwantus sydd yn bwyta seirff pluan fwg; ffatrïoedd yn hongian ar gymylau oddi ar eu llinellau o fwg troellog; pontydd sydd yn troedio'r afonydd fel cewri o fabolgampwyr, fflachio yn yr haul gyda disgleirdeb cyllyll, llongau stêm anturiaethus sydd yn gwyntio'r gorwel; trenau brestiau cyhyrog a'i holwynion yn sathru'r traciau fel carnau ceffylau enfawr wedi'u ffrwyno gan bibellau; a hediad llyfn awyrennau sydd a'i propelers yn clebran yn y gwynt fel baneri ac yn ein cymeradwyo fel torf frwdfrydig.
Mabwysiadwyd yn frwdfrydig syniadau Marinetti gan grŵp o arlunwyr ifanc ym Milan - Umberto Boccioni, Luigi Russolo a Carlo Carrà a datblygodd ei syniadaeth yn eu peintiadau a gyhoeddodd Manifesto dei pittori futuristi (mainiffesto peintwyr y dyfodol) ym 1910 gan ddatgan:
Rydan ni am ymladd yn ffyrnig yn erbyn crefydd eithafol, anymwybodol a snobyddlyd y gorffennol, sydd yn cael ei fwydo gan ddylanwad anfad amgueddfeydd. Rydan ni'n rebelio yn erbyn edmygedd diymadferth o hen gynfasau, hen gerfluniau a hen bethau, ac yn erbyn y brwdfrydedd dros bob dim sydd wedi'u pydru, yn fudur ac wedi'u rhydu gan amser; credwn fod y dirmyg cyffredin o bopeth ifanc, newydd a chalonogol mewn bywyd yn anghyfiawn ac yn drosedd. [3][4]
Cyfleu symudiad
[golygu | golygu cod]Gyda dyfodiad yr oes fecanyddol ac ymddangosiad trenau, ceir ac awyrennau a oedd yn gallu cyrraedd cyflymderau nad oedd wedi'u gweld o'r blaen roedd y Futuristi am gyfleu cyffro a symudiad yr oes newydd yn eu celf ac yn disodli gwaith statig, traddodiadol.
Roedd diddordeb arbennig ganddynt yng ngwaith y ffotograffydd 19g Étienne-Jules Marey, a datblygodd gwaith crono-ffotogrffeg a oedd yn dangos am y tro cyntaf sut oedd symudiad mecanyddol pobl ac anifeilaidd. [5]
Roedd gwaith Marey'n arbennig o ddylanwadol i weithiau Futuristi fel Umberto Boccioni a'i gynfas Egni y Bieciwr (1913) sy'n cyfleu symudiad a bywiogrwydd biec a Giacomo Balla a'i waith enwog Egni Ci ar Dennyn[dolen farw] sy'n dangos symudiad ci, tennyn a choesau perchnnog y ci wthi iddynt fynd am dro.
Cafodd waith y Futuristi Eidaleg ddylanwad dros fudiadau celfyddydol arloesol eraill, yn arbennig celf haniaethol (abstract), Ciwbiaeth, Suprematism, Lluniadaeth (Constructivism) a Dada.
Yn Rwsia ysbrydolwyd arlunwyr fel Kazimir Malevich a llenorion fel Vladimir Mayakovsky gan y mudiad Eidalaidd a chredwyd mudiad Dyfodoliaeth Rwsieg arloesol.
Rhyfel a Ffasgiaeth
[golygu | golygu cod]Tra roedd llawer o fudiadau celfyddydol ac arlunwyr yr 20g yn gwrthwynebu rhyfel ac yn cyfleu ei erchyllterau. Roedd y Dyfodolwyr, ar y llaw arall, yn frwdfrydig dros ryfel a gwladgarwch ac o blaid i'r Eidal cymryd rhan yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Pwynt rhif 9 ym maniffesto Marinetti 1909 oedd Bydden ni'n clodfori rhyfel – unig hylendid i'r byd – milwriaeth, gwladgarwch, yr arwydd dinistriol ymladdwyr rhyddid, syniadau hyfryd gwerth marw drostynt, a dirmyg i ferched.
Lladdwyd sawl arlunydd y mudiad yn y rhyfel yn cynnwys Umberto Boccioni a'r pensaer Antonio Sant’Elia, dau o'r prif enwau. Gyda'r rhyfel ddaeth cyfnod wrth-sefydliadol a mwyaf arloesol Dyfodoliaeth i'w ben.
Yn dilyn y rhyfel cefnogodd llawer o Futuristi syniadaeth Ffasgiaeth a'r unben Benito Mussolini a ddaeth i rym yn y 1920au ac arweiniodd yr Eidal i drychineb yn Ail Ryfel Byd.
Fel y Ffasgwyr roedd llawer o'r Futuristi Eidalaidd yn wladgarwyr ac edmygwyr grym a thrais ac am weld moderneiddio ardaloedd gwledig de'r wlad. Ffurfiodd Marinetti blaid wleidyddol dyfodoliaeth (Partito Politico Futurista) ym 1918 a unodd gyda phlaid Ffasgaidd Mussolini y flwyddyn ganlynol.
Cydnabyddwyd a chefnogwyd Futurismo gan lywodraeth y Ffasgwyr wedi i Mussolini'n dod i rym ym 1922. Adeiladwyd nifer o adeiladu a cherfluniaeth yn steil Futurismo i glodfori'r gyfundrefn newydd.
Ymdrechodd Marinetti i wneud Futurismo unig arddull swyddogol yr Eidal ond gefnogodd Mussolini nifer o wahanol arddulliau celfyddydol, yn arbennig copïau o gelf oes Rhufeinig, er mwyn cadw'r arlunwyr a chyhoedd ar ei ochr.
Er i Futurismo cael ei gysylltu'n gryf gyda Ffasgiaeth, roedd ganddo gefnogwyr ac arlunwyr a oedd yn wrthwynebwyr y ffasgwyr. Ond ym 1924 gadawodd y Sosialwyr, Comiwnyddion ac Anarchwyr gynhadledd y Futuristi ym Milan er ni ddistewid yn llwyr lleisiau gwrth-ffasgaeth o fewn Dyfodolaeth yr Eidal tan y 1930au.[6]. Bu un o brif feddylwyr neo-ffasgwyr cyfoes, Julius Evola yn aelod o'r Futuristi am gyfnod.
Futuristi (Dyfodolwyr)
[golygu | golygu cod]Yr Eidal
- Filippo Tommaso Marinetti
- Benito Mussolini
- Enrico Allimandi
- Adone Asinari
- Franco Asinari
- Antonio Asturi
- Fedele Azari
- Giacomo Balla
- Enzo Benedetto
- Umberto Boccioni
- Vittorio Bodini
- Uberto Bonetti
- BOT (Osvaldo Barbieri)
- Anton Giulio Bragaglia
- Paolo Buzzi
- Francesco Cangiullo
- Benedetta Cappa
- Mario Carli
- Enrico Carmassi
- Sebastiano Carta
- Carlo Carrà
- Gianni Carramusa
- Giuseppe Caselli
- Enrico Cavacchioli
- Primo Conti
- Bruno Corra (Bruno Ginanni Corradini)
- Tullio Crali
- Auro D'Alba (Umberto Bottone)
- Giulio D'Anna
- Luigi De Giudici
- Mino Delle Site
- Fortunato Depero
- Gerardo Dottori
- Carlo Erba
- Julius Evola
- Farfa (Vittorio Osvaldo Tommasini)
- Fillia (Luigi Enrico Colombo)
- Luciano Folgore
- Gesualdo Manzella Frontini
- Achille Funi
- Ivanhoe Gambini
- Giacomo Giardina
- Arnaldo Ginna (Arnaldo Ginanni Corradini)
- Corrado Govoni
- Guglielmo Jannelli
- Giovanni Korompay
- Mimì Maria Lazzaro
- Michele Leskovic
- Osvaldo Licini
- Gian Pietro Lucini
- Alberto Magnelli
- Vincenzo Mai
- Enzo Mainardi
- Giorgio Michetti
- Antonio Marasco
- Emma Marpillero, Corradi
- Pino Masnata
- Silvio Mix
- Sante Monachesi
- Marisa Mori
- Bruno Munari
- Emilio Notte
- Novo (Nello Voltolina)
- Pippo Oriani
- Nino Oxilia
- Ivo Pannaggi
- Giovanni Papini
- Vittorio Piscopo
- Enrico Prampolini
- Francesco Balilla Pratella
- Giuseppe Preziosi
- Salvatore Quasimodo
- Riccardo Ricas Castagnedi
- Romolo Romani
- Ottone Rosai
- Pippo Rizzo
- Mino Rosso
- Luigi Russolo
- Bruno Giordano Sanzin
- Alberto Sartoris
- Antonio Sant'Elia
- Gino Severini
- Ardengo Soffici
- Fides Stagni
- Tato (Guglielmo Sansoni)
- Bruno Giordano Sanzin
- Fides Stagni
- Joseph Stella
- Mario Sturani
- Thayaht (Ernesto Michahelles)
- Wladimiro Tulli
- Vann'Antò
- Ruggero Vasari
- Lucio Venna, (Giuseppe Landsmann)
- Mario Mirko Vucetich
Pensaeri
- Mario Chiattone
- Manlio Costa
- Virgilio Marchi
- Antonio Sant'Elia
Rwsia
Tsiec
|
Ffrainc
Hwngari
|
Portiwgal
Catalonia
Brasil
Yr Ariannin
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-12. Cyrchwyd 2021-06-20.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-05-22. Cyrchwyd 2015-03-11.
- ↑ http://www.wiw.net/pages.php?CDpath=3_5_252_298[dolen farw]
- ↑ http://www.theartstory.org/movement-futurism.htm
- ↑ https://www.khanacademy.org/humanities/art-1010/wwI-dada/art-great-war/a/italian-futurism-an-introduction
- ↑ Art, Nationalism and War: Political Futurism inItaly (1909–1944) Dr Daniele Conversi, University of Lincoln, 2009 The Author Sociology Compass 3/1 (2009): 92–117, 10.1111/j.1751-9020.2008.00185.xJournal Compilation © 2009 Blackwell Publishing Ltd