Fernand Léger

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Fernand Léger
Fernand Léger.jpg
Fernand Léger, tua 1936
Ganwyd 4 Chwefror 1881(1881-02-04)
Argentan, Normandi, Ffrainc
Bu farw 17 Awst 1955(1955-08-17) (74 oed)
Gif-sur-Yvette, Ffrainc
Yn enwog am Paentio
Cerflunio
Ffilm
Galwedigaeth Arlunydd Modern

Bu Joseph Fernand Henri Léger (4 Chwefror 188117 Awst 1955) yn beintiwr, cerflunydd a chyfarwyddwr ffilm Ffrengig. Yn ei waith cynnar dyfeisiodd arddull personol o Giwbiaeth a newidiodd i fod yn arddull mwy ffigurol a phoblogaidd. Mae'r modd a lwyddodd i symleiddio a chreu ffurfiau bras lliwgar yn ei gyfrif fel un o ragflaenwyr celf Pop.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd yn Argentan, Normandi yn fab i ffermwr, bu'n prentis i bensaer yn Caen 1897-9. Symudodd i Baris ym 1900 ble fu'n gweithio i ennill bywoliaeth fel drafftsmon i bensaer. Yn dilyn ei wasanaeth miliwrol astudiodd celf yn École des Arts Décoratifs ac Académie Julian. Dim ond yn 25 oed ddechreuodd weithio fel arlunydd wedi'i ddylanwadau gan Paul Cézanne ac Argraffiadaeth (Impressionnisme).

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Fernand Léger – Parêd mawr gyda chefndir coch,1958

Ym 1907 symudodd i Montparnasse ym Mharis a oedd yn ardal boblogaidd gydag artistiaid ifanc avant-garde. Yno cyfarfu ag arlunwyr fel Marc Chagall a Robert Delaunay. O 1909 fe gydweithiodd gydag arlunwyr Ciwbaidd (Cubist) a datblygodd arddull dynamig a oedd hefyd yn cynnwys ffigyrau ag elfennau tiwbiau a silindrau. Ym 1910 arddangosodd ei waith gyda Chiwbwyr fel Jean Metzinger.

Datblygodd ei waith i fod yn fwy haniaethol (abstract) tan 1914 fel y gwelir yn y gynfas Contraste de formes, 1913. Yn 1914 pan fu rhaid iddo ddychwelyd i Fyddin Ffrainc i ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Tra yn Verdun dioddefodd ymosodiad nwy gwenwyn.

Bu'r arfau, drama ac egni'r rhyfel yn ddylanwad mawr ar ei waith, ffigurau yn ei ddarluniau'n ymddangos fel peiriannau neu robotiaid.

Yn y 1920 daeth yn gyfaill gyda'r pensaer modern Le Corbusier, arbrofodd gyda murluniau a chynlluniodd setiau a gwisgoedd ar gyfer y ballet.

Dihangodd rhag yr Ail Ryfel Byd yn fyw Unol Daleithiau rhwng 1940-5 yn dysgu ym Mhrifysgol Yale.

Pan ddychwelyd i Ffrainc pan ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol. Bu'n weithgar fel peintiwr, cynllunydd i'r ballet a hefyd cerfluniau, ceramig a gwaith gwydr lliw.

Cydnabuwyd fel arlunydd o fri ac ym 1952 gosodwyd pâr o'i furluniau yn Neuadd Fawr y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.[1][2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Blodyn Mawr Den Haag