Piet Mondrian

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Piet Mondrian
Piet Mondrian 2.jpg
Ganwyd 7 Mawrth 1872 Edit this on Wikidata
Amersfoort Edit this on Wikidata
Bu farw 1 Chwefror 1944 Edit this on Wikidata (71 oed)
Achos: Niwmonia Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Brenhiniaeth yr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Royal Academy of Art Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arlunydd, Arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Victory Boogie-Woogie, Composition in line, second state, Composition XIV, Broadway Boogie-Woogie Edit this on Wikidata
Prif ddylanwad Ciwbiaeth, Cymdeithas Theosoffiaidd, anthroposophy, Bart van der Leck, Pablo Picasso Edit this on Wikidata
Mudiad Post-Impressionism, De Stijl Edit this on Wikidata
Tad Pieter Cornelis Sr. Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.mondriantrust.com/ Edit this on Wikidata

Roedd Pieter Cornelis Mondriaan (7 Mawrth 18721 Chwefror 1944), neu Piet Mondrian, yn beintiwr avant-garde o'r Iseldiroedd ac yn aelod blaenllaw o'r mudiad De Stijl a sefydlwyd gan Theo van Doesburg.

Mondrian hefyd oedd sylfaenydd y grŵp a'r mudiad Neo Plasticism. Fe ddatblygodd ei waith o arddull Naturoliaeth a Symbolaeth i 'gelfyddyd haniaethol' a bu'n un o'i arloeswyr, gyda'r Rwsiaid Wassily Kandinsky a Kazimir Malevich. Mae syniadaeth ac esthetig Mondrian wedi dylanwadu’n gryf ar gelf, pensaernïaeth, cerfluniaeth a dylunio ail hanner yr 20g.[1][2]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yn Amersfoort, yr Iseldiroedd. O 1892 tan 1908 astudiodd yn Academi Celf Gain, Amsterdam, yn ddisgybl i August Allebé.

Dechreuodd weithio fel athro ysgol gynradd, gan beintio yn ei amser hamdden. Roedd y rhan fwyaf o'i waith yn ystod y cyfnod yma'n dirweddau arddull Naturoliaeth neu Argraffiadaeth (Impressionist). Roedd y delweddau yma o'r Iseldiroedd yn cynnwys melinau gwynt, caeau a chamlesi yn steil Ysgol yr Hague, ac wedyn mewn amryw o arddulliau a thechnegau wrth chwilio am steil personol. Mae'r gwaith hwn o'i gyfnod cynnar yn dangos dylanwad sawl mudiad fel Pwyntiliaeth (pointillism) a Fauvism.

Mewn arddangosfa yn amgueddfa Gemeentemuseum Den Haag gwelir nifer o ddarluniau o'r cyfnod yma sy'n cynnwys arddull Post Impressionist, paentiadau fel Y Felin Goch a Choed wrth olau'r lleuad. Mae darlun arall Avond (Hwyr) (1908), yn dangos coeden wrth iddi nosi ac mae'r dewis o liwiau'n gyfyngedig i goch, melyn a glas, er nad yw'r llun, ar y cyfan, yn haniaethol, Avond yw'r cyntaf o ddarluniau Mondrian i ddibynnu ar liwiau cysefin.[3]

Mewn cyfres o ddarluniau o 1905-1907, sy'n seiliedig ar Naturoliaeth gyda choed annelwig ac adlewyrchiadau, canfyddir symudiad tuag at waith haniaethol - sy'n sail i'w waith diweddarach.

Dylanwad Ciwbiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylanwadwyd yn gryf ar waith Mondrian gan waith y grŵp Ciwbaidd y Moderne Kunstkring (Cylch Celfyddyd Fodern) a welodd mewn arddangosfa yn Amsterdam ym 1911. Mae ei ymdrechion i geisio symleiddio elfennau i'w weld yn y ddau ddarlun Stilleven met gemberpot ('Bywyd Llonydd' gan Jar Sinsir). Yn y fersiwn ciwbaidd, 1911 a'r fersiwn haniaethol, 1912 mae'r ffurfiau'n cael eu lleihau i gylchoedd, trionglau a sgwariau.[4][5]

De Stijl[golygu | golygu cod y dudalen]

Cylchgrawn De Stijl

Rhwng 1914 a 1914 bu ym Mharis, ble dylanwadwyd arno ymhellach gan Giwbiaeth. Wrth ddychwelodd i Amsterdam yn 1915 fe gyfarfu â Theo van Doesburg ac fe sefydlwyd y grŵp De Stijl (Y Steil) gan y ddau ym 1917 [2]. Cyhoeddwyd y cylchgrawn De Stijl rhwng 1917 i 1926 gan gasglu o'u hamgylch artistiaid a ddylanwadwyd arnynt gan syniadaeth chwyldroadol Ciwbiaeth. Mondrian oedd y pwysicaf ohonynt.

Ym 1919 fe ddychwelodd i Baris ble ym 1921 lleihawyd ei balet o liwiau i ddim ond gwyn, du a'r lliwiau cysefin (primary colours). Ym 1930 fe ymunodd â'r grŵp Cercle et carré ac yn 1931 â Abstraction-Création. I osgoi'r Aail Ryfel Byd fe symudodd yn gyntaf i Lundain, ac wedyn ym 1940, i Efrog Newydd.[6] Yn Efrog Newydd yn y 1940au fe ddatblygodd ei waith yn wrthgyferbyniad rhythmig o liwiau llachar dan ddylanwad cerddoriaeth Jazz a phatrwm strydoedd y ddinas, gan ddewis teitlau fel Broadway Boogie-Woogie i'r darnau.[7]

Athroniaeth ac Esthetig[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd celfyddyd Mondrian o hyd yn perthyn yn agos i'r ysbrydol a'r athronyddol. O 1908 fe ymddiddorodd yn y mudiad Theosoffi a sefydlwyd gan Helena Petrovna Blavatsky ar ddiwedd y 19g.[8]

Trwy geometreg haniaethol roedd Mondrian yn chwilio am strwythur sylfaenol y bydysawd a daeth Mondrian i'r casgliad nad oedd pwrpas i gelf ceisio creu copïau o bethau sydd yn bod yn ein byd pob dydd ond i ymchwilio i realiti dyfnach gan ddod o hyd i 'gelf pur'.[9]

Pan ddechreuodd Theo Van Doesburg arbrofi a defnyddio elfennau ar onglau cam yn ei ddarluniau, fe adawodd Mondrian y grŵp De Stijl.[2]

Efrog Newydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1937 cafodd lawer iawn o artistiaid a llenorion eu gwahadd gan y Natsïaid. Cafodd eu gwaith ei alw'n Entartete Kunst - 'Celf Ddirywiedig'. Trefnodd y Natsïaid arddangosfeydd o waith 'dirywiedig' gan rhoi cyfle i'r cyhoedd chwerthin ar ei ben. Fel llawer o arlunwyr, iddewon a gwrthwynebyr y Natsïad yn gyffredinol, roedd rhaid i Mondiran dianc Ewrop rhag ofn iddo gael ei garcharu neu ladd. Symudodd i Efrog Newydd ble roedd wrth ei fodd gyda cherddoriaeth Jazz a phensaernïaeth y ddinas fawr sydd i'w gweld yn ei weithfeydd olaf fel Broadway Boogie-Woogie (1942-43).

Teyrngedau yn steil Mondrian[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Piet Mondrian", Tate gallery, published in Ronald Alley, Catalogue of the Tate Gallery's Collection of Modern Art other than Works by British Artists, Tate Gallery and Sotheby Parke-Bernet, Llundain 1981, tt.532–3. Adalwyd 18 Rhagfyr 2007.
  2. 2.0 2.1 2.2 http://www.theguardian.com/artanddesign/2010/jan/23/theo-van-doesburg-avant-garde-tate
  3. gemeentemuseum
  4. Guggenheim Collection – Artist – Mondrian – Still Life with Gingerpot
  5. Casiraghi, Roberto "Piet Mondrian - Nike Dunk Low SB - Available!", http://www.englishgratis.com.
  6. "BBC News - Liverpool Tate to host 'largest' UK Mondrian exhibition". Bbc.co.uk. 2013-04-19. Cyrchwyd 2014-06-04.
  7. http://www.moma.org/collection/browse_results.php?object_id=78682
  8. Sellon, Emily B.; Weber, Renee (1992). "Theosophy and the Theosophical Society". In Faivre, Antoine; Needleman, Jacob (gol.). Modern Esoteric Spirituality. World Spirituality. 21. Crossroad. p. 327. ISBN 0824514440. Missing |editor2= (help)
  9. Van Doesburg at Tate Modern By Jackie Wullschlager, Published 2010/6/2