De Stijl

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Composition décentralisée gan Theo van Doesburg, 1924, Solomon R. Guggenheim Museum, New York Bequest, Richard S. Zeisler, 2007
Rood-blauwe stoel, (cadair coch a glas) dylunwyd gan Gerrit Rietveld, fersiwn neb liwiau 1919, fersiwn gyda lliwiau 1923
Neuadd ddawns Cafe Aubette yn Strasbourg, Theo van Doesburg mewn cydweithrediad â Sophie Taeuber-Arp a Jean Arp, 1929

Mae De Stijl ("Yr Arddull" / "Y Steil" mewn Iseldireg - ynganer fel 'stail' yn Gymraeg), yn fudiad celf Avant-garde a ddaeth i'r amlwg yn yr Iseldiroedd ym 1917 nes 1931 gan argymell adnewyddu esthetig yn seiliedig ar fireinio ffurfiol a garedu elfennau nad oedd yn hanfodol i'r gelfyddid. Fe elwir y mudiad hefyd weithiau yn Neoplasticism (Nieuwe Beelding mewn Iseldireg). Roedd y mudiad Avant-garde yn integreiddio'r gwahanol gelfyddydau (pensaernïaeth, dylunio diwydiannol, y celfyddydau gweledol) i greu aestheteg newydd gyflawn i'r amgylchedd dynol yn seiliedig ar werthoedd plastig newydd, cyffredinol ac phurach. [1] Ymysg yr artistiaid mwyaf amlwg roedd Piet Mondrian (1872-1944), Theo van Doesburg (1883-1931), Bart van der Leck (1876-1958), Georges Vantongerloo neu Huszár Wilmore (cerflunydd).

Cyd-destun[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylanwadwyd ar grŵp artistiaid De Stijl gan y mudiad Ciwbiaeth ond gyda dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ynyswyd yr Iseldiroedd (oedd yn niwtral) ac wedi eu amgau gan yr Almaen. Roedd un o brif artistiaid y mudiad, Mondrian yn gyfarwydd iawn â mudiadau celf ryngwladol ac wedi byw ym Mharis a oedd yn ganolfan celf y byd, ar y pryd (a lle newidiodd sillafiad ei enw o Mondriaan). Roedd yn digwydd bod wedi dychwelyd i'w famwlad pan ddarganfyddodd nad oedd modd iddo adael y wlad oherwydd gwarchae y Rhyfel. Creuwyd De Stijl felly mewn awyrgylch o ynysrwydd celfyddydol lle gorfodwyd i'r artistiaid drafod a chreu mudiad o fewn eu cyd-destun ei hunain yn yr Iseldiroedd.

Arddull[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd hyrwyddwyr De Stijl o blaid celf pur haniaethol ac iwnifersal trwy leihau hanfodion y gwaith celf i'r elfen symlaf mewn ffurf a lliw; symleiddiwyd y gweledol i'r unionsyth fertigol a llorweddol, gan ddefnyddio dim ond y lliwiau primaidd (coch, glas, melyn), du, gwyn, a llwyd.

Ynghyd â Mondrian, sefydlodd van Doesburg y cylchgrawn De Stijl, prif gyhoeddiad y mudiad yn y nifer cyntaf a ymddangosodd y maniffesto Neoplasticism.

Mae damcaniaethau Mondrian, yn tarddu o weithiau ciwbaidd Georges Braque a Picasso a Theosoffi (hynny yw, i drawsffurfio crefydd fewn i wyddor), gan honni broses o echdynnu cyson lle bydd ffurfiau'n cael eu lleihau fewn i llinellau llorweddol a fertigol, ac lliwiau mewn du, gwyn, llwyd a thair cynradd.

Ysgrifennodd Mondrian yn ei erthygl 'Neo-Plastigaeth mewn Celf Darluniol' yng nghylchgrawn De Stijl,[1] As a pure representation of the human mind, art will express itself in an aesthetically purified, that is to say, abstract form. The new plastic idea cannot therefore, take the form of a natural or concrete representation – this new plastic idea will ignore the particulars of appearance, that is to say, natural form and colour. On the contrary it should find its expression in the abstraction of form and colour, that is to say, in the straight line and the clearly defined primary colour.

Achosodd ddogma gormodol Mondrian wrthdaro ffyrnig o fewn y mudiad, roedd Mondrian yn erbyn llinellau diagonal tra bod van Doesburg o'u plaid. Fodd bynnag, ystyrir y mudiad De Stijl, yn un darddiadau'r mudiadau dros dyrchafu'r ffurf geometrig haniaethol. Gwelir ei dylanwad mewn gweithiau celf, pensaerniaeth, ffasiwn hyd heddiw.

Prif Nodweddion De Stijl[golygu | golygu cod y dudalen]

Gall rhai o nodweddion ffurfiol y genre hon gynnwys:

  • Ymchwiliwch adnewyddu esthetig a chyfluniad gorchymyn werth byd harmonig newydd.
  • Pwrhau ffurflenni nes eu bod yn cyrraedd eu cydrannau sylfaenol: llinellau a chynlluniau.
  • Ymagwedd yn hollol resymegol.
  • Strwythuro gorfodi cytgord o linellau a masau hirsgwar lliw o gyfran amrywiol, bob amser yn onglau fertigol neu lorweddol.
  • Creu rhythmau anghymesur, ond gydag ymdeimlad mawr o gydbwysedd.
  • Lliwiau plaen, cymeriad dirlawn (cynradd: melyn, glas, coch) neu tonyddol (du, gwyn a llwyd).
  • Galwedigaeth o gronfeydd clir.

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://www.tate.org.uk/art/art-terms/n/neo-plasticism