Dessau
Gwedd
| Math | Ortsteil |
|---|---|
| Poblogaeth | 83,616 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Dessau-Roßlau |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 182.81 km² |
| Uwch y môr | 63 metr |
| Gerllaw | Mulde, Afon Elbe |
| Cyfesurynnau | 51.8342°N 12.2461°E |
| Cod post | 06842, 06844, 06846, 06847, 06849, 06861, 06862 |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |
Dinas yn nhalaith Sachsen-Anhalt yn nwyrain canolbarth yr Almaen yw Dessau. Saif ar gydlif Afon Mulde ac Afon Elbe, i'r gogledd-ddwyrain o Halle an der Saale. Codwyd y dref Almaenig ar anheddiad Sorbaidd, ac o 1213 mae'r cofnod cyntaf o Dessau. Trigai cowntiaid, tywysogion, a dugiaid Anhalt yn Dessau o 1603 hyd 1918.[1]
Symudodd y Bauhaus i Dessau o Weimar ym 1925, ac yno bu'r ysgol bensaernïol honno nes i'r Natsïaid ei chau ym 1933. Dynodwyd adeiladau Bauhaus y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO ym 1996, a Gerddi Dessau-Wörlitz cyfagos yn 2000. Ymhlith ei feibion a merched o nod mae'r athronydd Moses Mendelssohn a'r arlunwyr Friederike Julie Lisiewska ac Angelika Tübke.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Dessau, Germany. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Mawrth 2018.
