Ofis ar Brezhoneg
Gwedd
| Enghraifft o: | rheoleiddiwr iaith |
|---|---|
| Daeth i ben | 17 Medi 2010 |
| Dechrau/Sefydlu | 1 Mai 1999 |
![]() | |
| Olynydd | Ofis publik ar brezhoneg |
| Ffurf gyfreithiol | association under the French law of 1901 |
| Gwladwriaeth | Ffrainc |
| Rhanbarth | Karaez-Plougêr |
| Dynodwyr | |

Sefydliad i hybu'r iaith Lydaweg yw Ofis ar Brezhoneg (Ffrangeg: Office de la langue bretonne. Fe'i sefydlwyd ar 1 Mai 1999; mae'n cyfateb yn fras i Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Ymhlith ei dyletswyddau, mae casglu gwybodaeth am sefyllfa'r iaith Lydaweg, cynghori cymunedau ar arwyddion dwyieithog ac enwau lleoedd a chynorthwyo cwmnïau ac eraill sy'n dymuno defnyddio'r iaith. Mae hefyd yn hybu cyrsiau dysgu Llydaweg i oedolion. Mae wedi datblygu'r cynllun Ya d'ar brezhoneg i hyrwyddo'r iaith o fewn busnesi a chymdeithasau, a hefyd o fewn cynghorau lleol.
Mae'n sefydliad annibynnol sy'n cael ei ariannu'n bennaf gan y région Bretagne, ac sydd a'i bencadlys yn Carhaix.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Safle we Ofis ar Brezhoneg Archifwyd 2020-10-17 yn y Peiriant Wayback
