Eglwys Gadeiriol Caerwynt
| Math | cadeirlan Anglicanaidd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | y Drindod |
| Ardal weinyddol | Caerwynt, Dinas Caerwynt |
| Sefydlwyd | |
| Nawddsant | Sant Pedr, yr Apostol Paul |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Hampshire (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.06072°N 1.31333°W |
| Cod OS | SU4823229265 |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Normanaidd |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
| Cysegrwyd i | y Drindod |
| Manylion | |
| Esgobaeth | Esgobaeth Caerwynt |
Eglwys gadeiriol yn ninas Caerwynt, Hampshire, De-ddwyrain Lloegr, yw Eglwys Gadeiriol Caerwynt. Mae'n un o'r eglwysi cadeiriol hynaf yn Lloegr, a godwyd gan y Normaniaid yn yr 11g ar safle eglwys Sacsonaidd gynharach. Mae'r gadeirlan yn sedd esgobion Caerwynt.
Dechreuwyd ar y gwaith o godi'r eglwys gadeiriol newydd yn 1079 ar safle'r hen eglwys a godwyd yn nheyrnasiad y brenin Alfred pan fu Caerwynt yn brifddinas teyrnas Lloegr. Ni chafodd ei chwblhau yn derfynol tan y flwyddyn 1404. Trwy gydol yr Oesoedd Canol bu'n ganolfan pererindod gyda phererinion yn galw yno i ymweld â Chreirfa Sant Swithin ar eu ffordd i Gaergaint.
Mae llyfrgell y gadeirlan yn cynnwys llawysgrif o Historia Beda a Beibl darluniedig gwerthfawr a adnabyddir fel 'Beibl Caerwynt'.

