Alffred Fawr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Alfred Fawr)
Neidio i: llywio, chwilio
Alffred Fawr
Statue d'Alfred le Grand à Winchester.jpg
Ganwyd 849 Edit this on Wikidata
West Berkshire Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Hydref 899 Edit this on Wikidata
Caerwynt Edit this on Wikidata
Gwaith Gwleidydd Edit this on Wikidata
Priod Ealhswith Edit this on Wikidata
Plant Æthelflæd, Edward yr Hynaf, Ælfthryth o Fflandrys, Æthelweard, Æthelgifu Edit this on Wikidata
Teulu Æthelswith, Æthelbald, Æthelberht, Æthelred, Æthelstan o Wessex Edit this on Wikidata
Llinach Teyrnas Wessex[*]

Roedd Alffred Fawr (Ælfred neu Alfred, o Hen Saesneg: Ælfrēd) (c. 84926 Hydref 899) yn frenin ar y deyrnas Eingl-Sacsonaidd ddeheuol Wessex o 871 hyd 899. Mae Alffred yn enwog am amddiffyn Lloegr yn erbyn ymosodiadau gan y Llychlynwyr. Cofnodir manylion ei fywyd gan yr ysgolhaig Cymreig cynnar Asser.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Alffred ei eni rhwng 847 ac 849 O.C. yn Wantage. Roedd e’n fab i bumed Brenin Wessex, Ethelwulf, a’i wraig cyntaf, Osburga. Maen nhw’n dweud yr aeth Alffred i Rufain pan oedd yn bump oed, ac wedi ymweld â Siarl, Brenin Ffrainc, gyda’i dad rhwng 854-855. Bu farw Ethelwulf yn 858, a chafodd Wessex ei reoli gan dri brawd Alffred, un ar ôl y llall. Am flynyddoedd, talent yn ddrud i'r Daniaid i adael ei bobl yn llonydd, ond yn 870 glaniodd llu enfawr ohonynt a chafwyd blynyddoedd o frwydro. Cofnodir i o leiaf 9 brwydr ddigwydd, gydag Alffred yn trechu ar 5 Ionawr, 871 gerllaw Reading a phum diwrnod wedyn ym Mrwydr Ashdown (Berkshire) ond ar 22 Mawrth ym Mrwydr Merton yn Wiltchire, lladdwyd ei frawd Ethelred.

Brenin Wessex[golygu | golygu cod y dudalen]

Coronwyd Alffred yn frenin Wessex ac aeth ati i geisio heddwch.

Cofiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd yr esgob Asser y Vita Ælfredi regis Angul Saxonum yn 893.

Gweithiau am Alfred[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae opera enwog gan Thomas Arne am Alfred sy'n cynnwys y gân Rule Britannia fel ffinale. Ymgais bwriadol i asio hanes brenin Lloegr gyda'r enw Prydain.

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.