John Clare

Oddi ar Wicipedia
John Clare
Portread o John Clare (1820) gan William Hilton (1820)
Ganwyd13 Gorffennaf 1793 Edit this on Wikidata
Clare Cottage Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mai 1864 Edit this on Wikidata
Northampton, St Andrew's Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, naturiaethydd, ffermwr Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth Edit this on Wikidata
llofnod

Bardd o Sais oedd John Clare (13 Gorffennaf 179320 Mai 1864). Yn fab i lafurwr amaethyddol tlawd, daeth yn enwog am ddathlu cefn gwlad ei filltir sgwar o gwmpas ei bentref genedigol o gwmpas Helpstone, Swydd Northampton ar y pryd (Swydd Caergrawnt heddiw) ac am ei ofidiau oherwydd y newidiadau mawr fu’n digwydd yno yn ystod ei blentyndod yn sgil y Deddfau Cau.[1] Cafodd Clare ei eni i fyd o ryfeloedd Napoleon a ddilynodd y Chwyldro Ffrengig, a'r caledi mawr a fu'n rhan o fywyd ei ddosbarth.
Cafodd farddoniaeth Clare ei ailasesu yn ddirfawr yn niwedd yr 20ed. ganrif: fe’i gwelir erbyn hyn fel fardd o bwys mawr o gyfnod y 19g.[2] Cafodd ei alw gan ei fywgraffiadydd Jonathan Bate "the greatest labouring-class poet that England has ever produced. No one has ever written more powerfully of nature, of a rural childhood, and of the alienated and unstable self."[3]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Cafodd Clare ei eni, ddiwedd y 18g, i fyd anghysbell, gwledig a thlawd ar gyrion Ffens swydd Caergrawnt. Gwlad agored gwastad ydoedd o hen gaeau agored y drefn ffiwdal a berthynai i'r Canol Oesoedd. Yng nghyd destun Ewrop roedd rhyfeloedd Napoleon wedi achosi caledi mawr ar bobl o'i ddosbarth er na wyddent lawer am y darlun mwy. Ond bu'n byw mewn oes oedd yn newid yn gyflym ac roedd Mudiadiau Cau'r Tiroedd Comin ar fin achosi trauma mawr i gymeriad sensitif fel Clare. Bu rhain yn sail i'w farddoniaeth am weddill ei oes ac yn achos yn y pen draw i'r teimlad o golled ac o'r gwallgofrwydd a brofodd ddiwedd ei oes.

Er nad oes yr un gronyn o gysylltiad Cymreig na Chymraeg ynddo, nac yn ei waith, efallai y bydd hanes y bardd gwlad hwn, unigryw yn y diwylliant Seisnig, yn canu cloch i'r Cymro a'r Gymraes sydd â pherthynas prudd-glwyfus dwfn â'r byd o'u cwmpas. Yn wahanol efallai i'r traddodiad Cymraeg, mae Clare yn pwysleisio manylion a theimladau dychmygus yr aderyn neu'r pryf sydd yn cael ei sylw, a bu ei berthynas â'i gyd-ddyn mewn cymdeithas haenaidd o ran dosbarth, yn fwy problematig iddo nag i'r bardd Cymraeg.

Nid oedd Clare yn berson dilychwyn, cyson na pherffaith, ond fe welwn yn ei stori llawer iawn o hanes ein teuluoedd ni ein hunain dros gyfnod tebyg wrth i ni geisio ymdopi a'r teimlad o golli, a newidiadau mawr a'r bywyd llai personol a ddaeth i'n rhan ni i gyd, ac sy'n dal i wneud.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni yn Helpston, 6 mile (10 km) i’r gogledd o ddinas Peterborough.[4] Daeth yn lafurwr amaethyddol tra’n blentyn; fodd bynnag, mynychodd ysgol yn Glinton tan yn 12. Fel oedolyn ifanc fe ddaeth yn ‘’potboy’’ yn nhafarn y Blue Bell gan syrthio mewn cariad â Mary Joyce; ond gwrthododd ei thad, ffermwr goludog, iddi gwrdd ag o. Yn ddiweddarach bu’n arddwr yn Burghley House.[5] Ymunodd â’r milisia (byddin Sir), blasu bywyd gyda’r Roma (sipsiwn), ac yn 1817 fe weithiodd fel llosgwr calch mewn odyn ym Pickworth swydd Rutland. Nid oedd y swydd olaf heb ei eironi; diwydiant i wella tir ar ôl cau’r tiroedd comin oedd llosgi calch ac roedd ei ofidiau personol am y ddeddfwriaeth hon yn un o ddylanwadau mwyaf dinistriol ar ei fywyd a’i feddwl yn ogystal â bod yn sail i’w awen barddonol eithriadol[6] Yn y flwyddyn ganlynol aeth ‘ar y plwyf’ a bu’n rhaid iddo dderbyn cymorth y tlodion.[7] Diffyg maeth o’i blentyndod allasai fod yn gyfrifol am ei gorffolaeth wantan bum-troedfedd.

Cerddi cynnar[golygu | golygu cod]

Roedd Clare wedi prynu copi o gasgliad poblogaidd o gerddi gan James Thomson o’r enw ‘’The Seasons’’ a dechreuodd farddoni ei hun yn syth. Mewn ymdrech i gadw ei rieni rhag cael eu troi allan o’u cartref, cynigiodd Clare ei gerddi, trwy werthwr llyfrau lleol, i gyhoeddwr ac fe’u cyhoeddwyd fel ’’Poems Descriptive of Rural Life and Scenery’’ yn 1820. Cafodd y gyfrol ei chanmol gan arwain y flwyddyn wedyn at ail gyfrol, ei ’’Village Minstrel and Other Poems’’. Dywedwyd yn ddoweddarach: “There was no limit to the applause bestowed upon Clare, unanimous in their admiration of a poetical genius coming before them in the humble garb of a farm labourer"[8]

Canol ei fywyd[golygu | golygu cod]

Cartref genedigol Clare. Rhannwyd y bwthyn, gyda theulu Clare yn rhentu rhan.

Ar 16 Mawrth 1820 priododd Martha ("Patty") Turner, morwyn llaeth, yn eglwys Great Casterton.[9]. Erbyn 1823 ar ôl derbyn pensiwn annigonnol trwy Ardalydd Exeter roedd Clare heb geiniog i’w enw. Prin oedd llwyddiant ei gyfrol “The Shepherd's Calendar" (1827) er iddo geisio ei farchnata ar ei liwt ei hun. Gwellhaodd ei iechyd rhywfaint dros dro, wrth iddo ddychwelyd i’w waith yn y caeau ond daeth salwch yn ôl yn fuan iddo. Derbybiodd fwthyn newydd yn rhodd gan Iarll Fitzwilliam gyda llain o dir, ond methodd a setlo yn ei gartref newydd.

Roedd Clare yn cael ei dynnu rhwng ei ddau fyd; rhwng byd llenyddol Llundain a byd ei gymdogion anllythrennog; rhwng yr angen i farddoni a’r angen i roi bwyd ar y bwrdd i’w deulu. Dechreuodd ddioddef pyliau o iselder a waethygodd ar ôl genedigaeth ei chweched plentyn yn 1830 ac wrth i’w farddoniaeth blesio llai. Ymunodd ei gyfeillion i helpu’r teulu i symud i gartref newydd gyda thir, hdb fod yn bell o’i gynefin cyfarwydd, yn Northborough ond aeth ei deimlad o golli gwreiddiau yn waeth. Cafodd rhywfaint o lwyddiant gyda’i gyfrol nesaf ac olaf “Rural Muse" (1835), ond ni fu’n ddigon i gynnal ei deulu o saith o blant. Dirywiodd ei iechyd meddwl, a chynyddodd ei flys am alcohol a’i anfodlonrwydd yn sgil teimladau o golli ei hunaniaeth.

Enghraifft nodedig o’i ymddygiad anwadal oedd ymyrryd â pherfformiad o The Merchant of Venice, pan rhoddodd Clare bryd o dafod i Shylock! Roedd yn dechrau bod yn fwrn i Patty a’r teulu, ac fe aeth ym mis Gorffennaf 1837, o’i wirfodd, i seilam breifat ger Loughton, yn Ardal Epping Forest. Sicrhaodd ei gefnogwr John Taylor y byddai Clare yn derbyn y gofal gorau. Adroddwyd am Clare yn dyddiau tywyll hyn iddo fod yn llawn lledrithion rhyfedd. Credai ei hun yn baffiwr ("prize fighter”) a bod ganddo ddwy wraig, Patty a Mary (ei gariad cyntaf). Honnodd ar goedd mae Lord Byron ydoedd go iawn.

Crefydd[golygu | golygu cod]

Anglican oedd Clare[10][11]. Er ei barodrwydd i farnu'r sefydliad fe gadwodd deyrngarwch i Eglwys Loegr drwy ei oes[12] Osgôdd y gwasanaethau yn ei ieuenctid gan dindroi yn y caeau yn ystod oriau'r cwrdd ond fe dderbyniodd llawer o gymorth gan y clerigwyr yn hwyrach yn ei fywyd.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

John Clare memorial, Helpston

Yn ei gyfnod adnebid Clare fel "the Northamptonshire Peasant Poet". Roedd ei addysg ffurfiol yn fyrhoedlog, roedd ei gyflogaeth a’i ddosbarth o radd isel. Peidiodd ag arddel y defnydd cynyddol o ramadeg Saesneg ac orthograffeg safonol yn ei gerddi a’i ruddiaith gan ei gyplysu i lywodraeth y teyrn ac i gaethweisiaeth. Ysgrifennodd yn ei dafodiaeth leol gan gyflwyno enwau lleol i’r canon llenyddol Saesneg: ee. “Pooty” (malwen), “lady-cow” (buwch coch gota), “crizzle” (crimpio) a “throstle” (bronfraith).

Yn ei fywyd cynnar brwydrodd i ganfod lle teilwng i’w farddoniaeth ymhlith ffasiynau llenyddol mympwyol ei ddydd. Teimlodd yr un pryd nad oedd yn perthyn chwaith ymysg gwladwyr a llafurwyr eraill. Ysgrifennodd Clare unwaith:

"I live here among the ignorant like a lost man in fact like one whom the rest seemes careless of having anything to do with—they hardly dare talk in my company for fear I should mention them in my writings and I find more pleasure in wandering the fields than in musing among my silent neighbours who are insensible to everything but toiling and talking of it and that to no purpose."

Mae’n gyffredin i weld diffyg atalnodi yng nghopiau gwreiddiol o waith Clare, er i nifer o gyhoeddwyr deimlo’r angen i gywiro’r ‘diffyg’ hwn ym mwyafrif ei waith.

Prifiodd Clare yng nghanol cyfnod o newid aruthrol mewn tref a gwlad wrth i’r Chwyldro Diwydiannol sgubo trwy Ewrop. Bu i lawer o lafurwyr a chrefftwyr a phlant gwledig mudo i’r dinasoedd poblog wrth i waith ffatrioedd gael ei fecaneiddio. Bu’r Chwyldro Amaethyddolyn gyfrifol am hywyddo aredig y porfeydd, dadwrieddio coed a pherthi, traenio corsydd a chau thiroedd comin.

Achosodd y dinistr i ffordd o fyw ganrifoedd oed loes ac ing i Clare er bod ei ddaliadau gwleidyddol yn geidwadol yn y bon. Gwrthododd gwyno hyd yn oed am y sefyllfa israddol yr oedd y gymdeithas Seisnig wedi gorfodi arno, gan fodloni ar fuchedd ei gyndeidiau.[13]

Mae ei waith cynnar yn myndegi ei ddileit ym myd natur a threigl y flwyddyn wledig fel ei gilydd - cerddi fel "Winter Evening" a "Haymaking" sy'n dathlu'r hyn sy'n ddigyfnewid yn ei fyd, anifeiliaid yn gorfod cael eu porthi a chnydau angen eu cynaeafu. Mae cerddi fel "Little Trotty Wagtail" y dangos ei sylwgarwch miniog, er fod ei gerdd "The Badger" yn awgrymu peth diffyg empathi gyda'r anifail a'i le yn nhrefn cefn gwlad. Defnyddiodd ffurf y soned a chwpledau rhigymol ond yn hwyrach yn ei fywyd mabwysiadodd ffurfiau tebycach i ganeuon gwerin a baledi. Clare oedd y bardd mwyaf dylanwadol ar ôl Wordsworth i ysgrifennu yn yr 'hen ddull'.[14]

Mewn rhagair i'r gyfrol The Poetry of Birds, dywdodd Tim Dee bod Clare yn ysgrifennu am 147 rhywogaeth o adar gwyllt Prydain heb unrhyw gymorth technegol o gwbl.[15]

Enghraifft o'i waith[golygu | golygu cod]

Mae Nyth yr Eos yn cael ei weld fel enghraifft arbennig o lygad treiddgar Clare yn ein tywys i mewn i fyd yr eos.
THE NIGHTINGALE’S NEST.
Up this green woodland-ride let’s softly rove,
And list the nightingale - she dwells just here.
Hush ! let the wood-gate softly clap, for fear
The noise might drive her from her home of love ;
For here I’ve heard her many a merry year -
At morn, at eve, nay, all the live-long day,
As though she lived on song. This very spot,
Just where that old-man’s-beard all wildly trails
Rude arbours o’er the road, and stops the way -
And where that child its blue-bell flowers hath got,
Laughing and creeping through the mossy rails
There have I hunted like a very boy,
Creeping on hands and knees through matted thorn
To find her nest, and see her feed her young.
And vainly did I many hours employ :
All seemed as hidden as a thought unborn.
And where those crimping fern-leaves ramp among
The hazel’s under boughs, I’ve nestled down,
And watched her while she sung ; and her renown
Hath made me marvel that so famed a bird
Should have no better dress than russet brown.
Her wings would tremble in her ecstasy,
And feathers stand on end, as ’twere with joy,
And mouth wide open to release her heart
Of its out-sobbing songs. The happiest part
Of summer’s fame she shared, for so to me
Did happy fancies shapen her employ ;
But if I touched a bush, or scarcely stirred,
All in a moment stopt. I watched in vain :
The timid bird had left the hazel bush,
And at a distance hid to sing again.
Lost in a wilderness of listening leaves,
Rich Ecstasy would pour its luscious strain,
Till envy spurred the emulating thrush
To start less wild and scarce inferior songs ;
For while of half the year Care him bereaves,
To damp the ardour of his speckled breast ;
The nightingale to summer’s life belongs,
And naked trees, and winter’s nipping wrongs,
Are strangers to her music and her rest.
Her joys are evergreen, her world is wide -
Hark! there she is as usual - let’s be hush -
For in this black-thorn clump, if rightly guest,
Her curious house is hidden. Part aside
These hazel branches in a gentle way,
And stoop right cautious ’neath the rustling boughs,
For we will have another search to day,
And hunt this fern-strewn thorn-clump round and round ;
And where this reeded wood-grass idly bows,
We’ll wade right through, it is a likely nook :
In such like spots, and often on the ground,
They’ll build, where rude boys never think to look -
Aye, as I live ! her secret nest is here,
Upon this white-thorn stump ! I’ve searched about
For hours in vain. There! put that bramble by -
Nay, trample on its branches and get near
How subtle is the bird ! she started out,
And raised a plaintive note of danger nigh,
Ere we were past the brambles ; and now, near
Her nest, she sudden stops - as choking fear,
That might betray her home. So even now
We’ll leave it as we found it : safety’s guard
Of pathless solitudes shall keep it still.
See there! she’s sitting on the old oakbough,
Mute in her fears ; our presence doth retard
Her joys, and doubt turns every rapture chill.
Sing on, sweet bird! may no worse hap befall
Thy visions, than the fear that now deceives.
We will not plunder music of its dower,
Nor turn this spot of happiness to thrall ;
For melody seems hid in every flower,
That blossoms near thy home. These harebells all
Seem bowing with the beautiful in song ;
And gaping cuckoo-flower, with spotted leaves,
Seems blushing of the singing it has heard.
How curious is the nest ; no other bird
Uses such loose materials, or weaves
Its dwelling in such spots : dead oaken leaves
Are placed without, and velvet moss within,
And little scraps of grass, and, scant and spare,
What scarcely seem materials, down and hair ;
For from men’s haunts she nothing seems to win.
Yet Nature is the builder, and contrives
Homes for her children’s comfort, even here ;
Where Solitude’s disciples spend their lives
Unseen, save when a wanderer passes near
That loves such pleasant places. Deep adown,
The nest is made a hermit’s mossy cell.
Snug lie her curious eggs in number five,
Of deadened green, or rather olive brown ;
And the old prickly thorn-bush guards them well
So here we’ll leave them, still unknown to wrong,
As the old woodland’s legacy of song.
O gyfrol The Rural Muse Cerddi gan John Clare, (Llundain: Whittaker & co., 1835) tud. 30.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Poems Descriptive of Rural Life and Scenery. Llundain, 1820.
  • The Village Minstrel, and Other Poems. Llundain, 1821.
  • The Shepherd's Calendar with Village Stories and Other Poems. Llundain, 1827
  • The Rural Muse. Llundain, 1835.
  • Sonnet. Llundain, 1841
  • First Love
  • Snow Storm
  • The Firetail
  • The Badger

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Summerfield, Geoffrey, gol. (1990). Selected Poems. Penguin Books. tt. 13–22. ISBN 0-14-043724-X.
  2. Sales, Roger (2002). John Clare: A Literary Life. New York City: Palgrave Macmillan. ISBN 0-333-65270-3.
  3. Bate, Jonathan (2003). John Clare: A biography. New York City: Farrar, Straus and Giroux. ISBN 978-0374179908.
  4. Foundation, Poetry (2019-08-25). "John Clare". Poetry Foundation (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-08-26.
  5. "'Besom ling and teasel burrs': John Clare and botanising". University of Cambridge (yn Saesneg). 20 September 2014. Cyrchwyd 22 July 2018.
  6. Rhaglen BBC Radio 4 “In Our Time: John Clare
  7. Louis Untermeyer, in A Treasury of Great Poems, English and American, from the Foundations of the English Spirit to the Outstanding Poetry of our Own Time with Lives of the Poets and Historical Settings Selected and Integrated, Simon and Schuster, 1942, p. 709.
  8. Martin, Frederick (2010) [1865]. "Preface". Life of John Clare. London, England: BiblioLife. ISBN 978-1140143451.
  9. E. Robinson, 2004: "Clare, John (1793–1864)...", Oxford Dictionary of National Biography. Retrieved 25 July 2019
  10. Sarah Houghton-Walker, in John Clare's Religion, Routledge, p. 6.
  11. Clare, John (1986). The Parish. Penguin. tt. 6–8. ISBN 0670801127.
  12. Houghton-Walker, Sarah (2009). John Clare's Religion. Routledge. t. 11. ISBN 978-0754665144.
  13. Manjoo, Farhad (17 October 2003). "Man Out of Time by Christopher Caldwell". Slate. Cyrchwyd 15 August 2012.
  14. Fowler, Alastair (1989). The History of English Literature. Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press. t. 250. ISBN 0-674-39664-2.
  15. "Poet, activist, bird watcher: exploring John Clare as nature writer". 29 August 2017. Cyrchwyd 24 April 2018.


Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.