Dwyrain Glasgow (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dwyrain Glasgow
Etholaeth Bwrdeisdref
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Dwyrain Glasgow yn Yr Alban.
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd 2005
Aelod Seneddol David Linden SNP
Nifer yr aelodau 1
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd Ewrop Yr Alban

Mae Dwyrain Glasgow yn etholaeth fwrdeisdrefol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, a cheir cyfanswm o 7 etholaeth o fewn ardal Cyngor Glasgow. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dinas Glasgow ac yn cynnwys y maestrefi Baillieston, Carmyle, Easterhouse, Parkhead, Shettleston a Tollcross. Mae'n cael ei chydnabod fel etholaeth nodedig gan fod pleidlais y Rhyddfrydwyr a'r Ceidwadwyr mor eithriadol isel (dan 5%).

O'r 1930au, roedd yr etholaeth yn cael ei chydnabod fel un o'r rhai saffaf ym meddiant y Blaid Lafur.

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Natalie McGarry, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, David Linden (hefyd o'r SNP) a ymladdodd y sedd, gan ddod yn fuddugol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|