Livingston (etholaeth seneddol y DU)
Cyfesurynnau: 55°53′38″N 3°31′01″W / 55.894°N 3.517°W
Livingston | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Livingston yn Yr Alban. | |
Awdurdodau unedol yr Alban | Gorllewin Lothian |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 1983 |
Aelod Seneddol | Hannah Bardell |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Midlothian West Lothian |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Mae Livingston yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn y siroedd Falkirk a Gorllewin Lothian.
Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]
Cynrychiolwyd yr etholaeth hon rhwng 1983 a 6 Awst 2005 gan Robin Cook (Llafur; wedi ei farwolaeth sydyn, cynhaliwyd is-etholiad ac etholwyd Jim Devine - a gafodd ei ddiarddel gan y Blaid Lafur oherwydd cyhuddiadau'n ymwneud â gor-hawlio costau.
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Hannah Bardell, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd gyda 3,878 o fwyafrif. Gwnaeth yr un peth yn 2019 gyda 13,435 o fwyafrif.
Etholiad | Aelod | Plaid | Nodiadau | |
---|---|---|---|---|
1983 | Robin Cook | Llafur | Foreign Secretary 1997–2001 | |
Is-etholiad, 2005 | Jim Devine | Llafur | ataliwyd rhag sefyll fel AS yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010 gan Gyngor Cyffredinol y Blaid Lafur[2] | |
2010 | Graeme Morrice | Llafur | ||
2015 | Hannah Bardell | SNP | Mwyafrif o 16,843 (56.9% o'r bleidlais) | |
2017 | Hannah Bardell | SNP | Mwyafrif o 3,878 (40.1% o'r bleidlais) | |
2019 | Hannah Bardell | SNP | Mwyafrif o 13,435 (66.3% o'r bleidlais) |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|
- ↑ Expenses row MP dropped by Labour