Swydd Dumfries, Clydesdale a Tweeddale (etholaeth seneddol y DU)
Swydd Dumfries, Clydesdale a Tweeddale | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Swydd Dumfries, Clydesdale a Tweeddale yn Yr Alban. | |
Etholaeth gyfredol | |
Aelod Seneddol | David Mundell Ceidwadwyr |
Nifer yr aelodau | 1 |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Mae Swydd Dumfries, Clydesdale a Tweeddale yn etholaeth Sirol yn Ne'r Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark. Ers 2015 dyma'r unig sedd a gynrychiolir drwy'r Alban gyfan gan y Ceidwadwyr.
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan David Mundell, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Mae'r etholaeth yn y de yn ffinio gyda Lloegr, ac adlewyrchir hyn yn y bleidlais Doriaidd a gafwyd yn 2015. Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd.
Yn draddodiadol, mae'r Ceidwadwyr wedi rheoli hen etholaeth Swydd Dumfries, Llafur wedi rheoli Clydesdale a'r Rhyddfrydwyr wedi bod yn amlwg yn Tweeddale ers y 1980au. Mae'n etholaeth amrywiol a gwahanol i etholaethau eraill yr Alban.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|