Gogledd Swydd Ayr ac Arran (etholaeth seneddol y DU)
Cyfesurynnau: 55°38′13″N 4°54′54″W / 55.637°N 4.915°W
Gogledd Swydd Ayr ac Arran | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() | |
Awdurdodau unedol yr Alban | Gogledd Swydd Ayr |
Poblogaeth | tua 135,000 (2008) |
Etholaethau | tua 74,985 |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 2005 |
Aelod Seneddol | Patricia Gibson |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Gogledd Cunninghame |
1868–1918 | |
Olynwyd gan | Bute a Gogledd Swydd Ayr |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Mae Gogledd Swydd Ayr ac Arran yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Fe'i lleolwyd oddi fewn i ffiniau sirol Dwyrain Swydd Ayr, Gogledd Swydd Ayr a De Swydd Ayr. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae trefi cyfoethog Largs, Fairlie a Gorllewin Kilbride yng ngogledd yr etholaeth a threfi gweithiol Ardrossan, Kilbirnie, Dyffryn Garnock, Kilwinning, Saltcoats a Stevenston i'r de. Saif Ynys Arran ac Ynys Cymru Fawr (Great Cumbrae) hefyd o fewn yr etholaeth.
Rhwng 1987 a 2015 y Blaid Lafur sydd wedi cynrychioli'r etholaeth; cyn hynny, y Ceidwadwyr.
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Patricia Gibson, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.
Aelod Seneddol[golygu | golygu cod]
Etholiad | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
2005 | Katy Clark | Llafur | |
2015 | Patricia Gibson | SNP | |
2017 | Patricia Gibson | SNP | |
2019 | Patricia Gibson | SNP |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015