Ynysoedd Erch a Shetland (etholaeth seneddol y DU)
Ynysoedd Erch a Shetland | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Ynysoedd Erch a Shetland yn Yr Alban ar gyfer etholiad cyffredinol 1708. | |
Awdurdodau unedol yr Alban | Ynysoedd Erch a Shetland |
Etholaethau | 32,181 |
Etholaeth gyfredol | |
Aelod Seneddol | Alistair Carmichael Democratiaid Rhyddfrydol |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Orkney and Shetland Orkney and Zetland |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Mae Ynysoedd Erch a Shetland (Saesneg: Orkney and Shetland) yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny; hen enw'r etholaeth oedd Orkney and Zetland. Mae rhan o'r etholaeth o fewn y sir (neu 'swydd') Ynysoedd Erch a Shetland. Yn etholiadau Senedd yr Alban mae Ynysoedd Erch a Shetland yn ddwy etholaeth ar wahân. Dyma un o etholaethau lleiaf o ran nifer yr etholwyr yng ngwledydd Prydain.
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2001 gan Alistair Carmichael (Democratiaid Rhyddfrydol). Yn etholiad 2015 cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban, ond roedd yr etholaeth hon yn un oi dri nad aeth i'w meddiant. Roedd gan Carmichael 817 o fwyafrif, gyda Danus George Moncreiff Skene (SNP yn dynn wrth ei sodlau.[1] Daliodd Carmichael ei afael yn y sedd yn 2019.
Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]
Blwyddyn | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
1707 | Alexander Douglas of Eagleshay | ||
1713 | George Douglas | ||
1715 | James Moodie | ||
1722 | George Douglas | ||
Is-etholiad 1730 | Robert Douglas | ||
1747 | James Halyburton | ||
1754 | James Douglas | ||
1768 | Thomas Dundas I | ||
Is-etholiad 1771 | Thomas Dundas II | ||
1780 | Robert Baikie | ||
1781 | Charles Dundas | ||
1784 | Thomas Dundas II | ||
1790 | John Balfour | ||
1796 | Capt. Robert Honyman I | ||
1806 | Col. Robert Honyman II | ||
1807 | Malcolm Laing | ||
1812 | Richard Bempde Johnstone Honyman | ||
1818 | George Heneage Lawrence Dundas | ||
1820 | John Balfour | ||
1826 | George Heneage Lawrence Dundas | ||
1830 | George Traill | Chwigiaid | |
1835 | Thomas Balfour | Tori | |
1837 | Frederick Dundas | Rhyddfrydwyr | |
1847 | Arthur Anderson | Rhyddfrydwyr | |
1852 | Frederick Dundas | Rhyddfrydwyr | |
Is-etholiad 1873 | Samuel Laing | Rhyddfrydwyr | |
1885 | Leonard Lyell | Rhyddfrydwyr | |
1900 | Cathcart Wason | Undebwr Rhyddfrydol | |
Is-etholiad 1902 | Rhyddfrydwr Annibynnol | ||
1906 | Rhyddfrydwyr | ||
1918 | Rhyddfrydwr y Glymblaid | ||
Is-etholiad 1921 | Malcolm Smith | Rhyddfrydwr y Glymblaid | |
1922 | Robert William Hamilton | Rhyddfrydwyr | |
1935 | Basil Neven-Spence | Ceidwadwyr | |
1950 | Jo Grimond | Rhyddfrydwyr | |
1983 | Jim Wallace | Rhyddfrydwyr | |
1988 | Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban | ||
2001 - 2019 | Alistair Carmichael | Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015