Y Blaid Geidwadol (DU)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Tori)
Jump to navigation Jump to search
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol
Arweinydd Boris Johnson
Cadeirydd Brandon Lewis
Sefydlwyd 1834
Rhagflaenwyd gan Y Blaid Doriaidd
Pencadlys Conservative Campaign HQ
4 Matthew Parker Street, Llundain, SW1H 9NP, Lloegr
Asgell yr ifanc Conservative Future
Asgell y merched Mudiad Merched Ceidwadol
Aelodaeth  (2019) Decrease 160,000[1]
Rhestr o idiolegau Ceidwadaeth[2]
syniadaeth gwrth-Ewrop[3]
British unionism
Sbectrwm gwleidyddol canol-dde
Partner rhyngwladol Undeb Rhyngwladol Democrataidd
Cysylltiadau Ewropeaidd Cynghrair Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewropeaidd
Grŵp yn Senedd Ewrop Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewropeaidd
Lliw      Blue
Tŷ'r Cyffredin
365 / 650
Tŷ'r Arglwyddi
243 / 777
Cynulliad Llundain
8 / 25
Senedd Cymru
11 / 60
Llywodraeth Lleol yn y DU
7,430 / 20,249
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
20 / 40
Gwefan
conservatives.com

Mae'r Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Saesneg:The Conservative and Unionist Party) yn blaid wleidyddol canol-dde yn y Deyrnas Unedig. Fe'i hadnabyddir hefyd fel Y Blaid Geidwadol, Ceidwadwyr, y Blaid Dorïaid neu'n llai ffurfiol Torïaid.

Sefydlwyd y blaid yn ei ffurf bresennol pan unodd gyda'r 'Rhyddfrydwyr Unoliaethol' (Liberal Unionist Party) a newidiwyd yr enw i 'Blaid Geidwadol ac Unoliaethol', sy'n parhau i fod yr enw swyddogol a chyfreithiol. Yn hanesyddol fe'i hystyrir yn brif blaid yr asgell dde gymhedrol. Yn 2014 roedd ganddi fwy o Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin ac yn llywodraethu mewn clymblaid gyda'r Rhyddfrydwyr Democrataidd. Yn ystod yr 20g, hi oedd un o'r ddwy blaid gryfaf; bu'n llywodraethu am 57 mlynedd, gan gynnwys dan arweinyddiaeth Winston Churchill (1940–45, 1951–55) a Margaret Thatcher (1979–90). Erbyn diwedd yr 20g, y Ceidwadwyr hefyd oedd y prif wrthwynebydd i'r Senedd Ewropeaidd.

Syr Robert Peel, cyn Brif Weinidog ac un o sefydlwyr y Blaid Dorïaid

Y Blaid Geidwadol yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn yr Etholiad Cyffredinol 1997 collodd y blaid bob un o'i seddi yng Nghymru, ond yn yr Etholiad Cyffredinol 2005, fe ailgipiwyd tair ohonynt.

Yn dilyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007, bu gan y blaid 12 o'r 60 sedd; ar ol 2013 hi oedd ail blaid fwyaf Cymru (o ran nifer yr aelodau seneddol), gyda Phlaid Cymru'n drydedd.

Cafodd y blaid etholiad cyffredinol ysgubol yn Rhagfyr 2019 gan ennill 14 Sedd allan o'r 40 Sedd Gymreig yn y Tŷ’r Cyffredin. Dyma gynnydd o 6 sedd o'r Blaid Llafur i'r Blaid Geidwadol. Torrwyd wal goch Llafur yn y Gogledd Ddwyrain gan adael un fricsen goch sef etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy. Yn ôl nifer dyma berfformiad gwaethaf Llafur ers dyddiau Margaret Thatcher yn y 80au.[4]

Perfformiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Siart yn dangos canrannau'r bleidlais boblogaidd i bleidiau gwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon, 1832–2005.
Canran y bleidlais. Ceidwadwyr (glas); Whigiaid/Rhyddfrydwyr/Rh'r Democrataidd (oren); Llafur (coch); eraill (llwyd).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Malnick, Edward (25 Mai 2019). "Membership of UK political parties". Daily Telegraph. Cyrchwyd 25 Mai 2019.
  2. http://www.parties-and-elections.eu/unitedkingdom.html
  3. Lynch, Whitaker, Philip, Richard (2012). "Where There is Discord, Can They Bring Harmony? Managing Intra-party Dissent on European Integration in the Conservative Party" (PDF). The British Journal of Politics and International Relations. Cyrchwyd 1 Mai 2014.
  4. "Etholiad 2019: 'Wal goch' yn troi'n fricsen". BBC Cymru Fyw. 2019-12-13. Cyrchwyd 2020-06-04.

Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.