Dumfries a Galloway (etholaeth seneddol y DU)
Dumfries a Galloway | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Dumfries a Galloway yn Yr Alban ar gyfer etholiad cyffredinol 2005. | |
Etholaeth gyfredol | |
Aelod Seneddol | Alister Jack Ceidwadwyr yr Alban |
Nifer yr aelodau | 1 |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Mae Dumfries a Galloway yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Fe'i crewyd yn dilyn uno etholaeth 'Galloway ac Upper Nithsdale' a rhan o Swydd Dumfries. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dumfries a Galloway, Gororau'r Alban a De Swydd Lanark.
Cipiwyd y sedd yn Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Richard Arkless, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad Cyffredinol, Mai 2017 cipiwyd y sedd gan Alister Jack, Ceidwadwr. Daliodd ei afael yn y sedd yn 2019.
Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Etholiad | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
2005 | Russell Brown | Llafur | |
2015 | Richard Arkless | Plaid Genedlaethol yr Alban | |
2017 | Alister Jack | Ceidwadwyr yr Alban |
Etholiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Etholiad Cyffredinol 2015: Dumfries a Galloway | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
SNP | Richard Arkless | 23,440 | 41.4 | +29.1 | |
Ceidwadwyr | Finlay Hamilton Carson | 16,926 | 29.9 | -1.7 | |
Llafur | Russell Brown | 13,982 | 24.7 | -21.2 | |
UKIP | Geoffrey Siddall | 1,301 | 2.3 | +1.0 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | Andrew Metcalf | 953 | 1.7 | -7.1 | |
Mwyafrif | 6,514 | 11.5 | -2.8 | ||
Nifer pleidleiswyr | 55,432 | 75.2 | +5.2 | ||
SNP dal gafael | Gogwydd | +25.2 |
Etholiad Cyffredinol 2010: Dumfries a Galloway | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Russell Brown | 23,950 | 45.9% | +4.8 | |
Ceidwadwyr | Peter Duncan | 16,501 | 31.6% | -3.7 | |
SNP | Andrew Wood | 6,419 | 12.3% | +0.2 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | Richard Brodie | 4,608 | 8.8% | +0.5 | |
UKIP | Bill Wright | 695 | 1.3% | +1.3 | |
Mwyafrif | 7,449 | 14.3% | |||
Nifer pleidleiswyr | 52,173 | 70.0% | +0.4 | ||
Llafur cadw | Gogwydd | +4.3 |
Etholiad Cyffredinol2005: Dumfries a Galloway | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Llafur | Russell Brown | 20,924 | 41.1 | +8.7 | |
Ceidwadwyr | Peter Duncan | 18,002 | 35.4 | +3.3 | |
SNP | Douglas Henderson | 6,182 | 12.1 | -13.0 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | Keith Legg | 4,259 | 8.4 | -0.5 | |
Gwyrdd yr Alban | John Schofield | 745 | 1.5 | +1.5 | |
Scottish Socialist | John Dennis | 497 | 1.0 | -0.6 | |
Christian Vote | Mark Smith | 282 | 0.6 | +0.6 | |
Mwyafrif | 2,922 | 5.7 | |||
Nifer pleidleiswyr | 50,891 | 68.5 | +1.5 | ||
Llafur cadw | Gogwydd | +2.7 |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|