Coatbridge, Chryston a Bellshill (etholaeth seneddol y DU)
Coatbridge, Chryston a Bellshill | |
---|---|
Etholaeth Bwrdeistref ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Coatbridge, Chryston a Bellshill yn Yr Alban. | |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 2005 |
Aelod Seneddol | Steven Bonnar SNP |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Coatbridge & Chryston Hamilton North a Bellshill |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Mae Coatbridge, Chryston a Bellshill yn etholaeth fwrdeistrefol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Dwyrain Swydd Dunbarton a Gogledd Swydd Lanark.
Cipiwyd y sedd yn Etholiad Cyffredinol, 2015 gan Phil Boswell, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, collwyd y sedd i Lafur, cyn iddi ddychwelyd i ddwylo'r SNP yn Etholiad 2019.
Etholiad | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
2005 | Tom Clarke | Llafur | |
2015 | Phil Boswell | SNP | |
2017 | Hugh Gaffney | Llafur | |
2019 | Steven Bonnar | SNP |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|