Thomas Clarke
Thomas Clarke | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mawrth 1857 Ynys Wyth |
Bu farw | 3 Mai 1916 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gwyddel |
Galwedigaeth | chwyldroadwr, gwleidydd |
Priod | Kathleen Clarke |
Cenedlaetholwr Gwyddelig ac yn un o brif ysgogwyr Gwrthryfel y Pasg yn 1916 oedd Thomas James Clarke (Gwyddeleg: Tomás Ó Cléirigh; 11 Mawrth 1857 – 3 Mai 1916).
Ganed Clarke ar Ynys Wyth yn Lloegr, lle roedd ei dad yn rhingyll yn y Fyddin Brydeinig. Symudodd y teulu i Dungannon, Swydd Tyrone, Iwerddon yn fuan wedyn. Yn 18 ymunodd a'r Irish Republican Brotherhood (IRB) ac yn 1883 gyrrwyd ef i Lundain gyda'r bwriad o beri ffrwydrad ar Bont Llundain. Cafodd ei ddal, a threuliodd y 15 mlynedd nesaf yng Ngharchar Pentonville. Rhyddhawyd ef yn 1898, a phriododd Kathleen Daly, Ymfudasant i'r Unol Daleithiau, lle bu Clarke yn gweithio i'r Clan na Gael dan John Devoy. Dychwelodd i Iwerddon yn 1907 ac agorodd siop dybaco yn Nulyn. Daeth yn ddylanwadol iawn yn yr IRB.
Yn 1915 ffurfiodd Clarke a Seán Mac Diarmada bwyllgor o fewn yr IRB i drafod cynlluniau ar gyfer gwrthryfel. Dywedir mai'r bwriad gwreiddiol oedd cyhoeddi Clarke yn Arlywydd y Weriniaeth, ond gwrthododd ef, ac felly aeth y teitl i Padraig Pearse. Pan ddechreuodd y gwrthryfel yn Ebrill 1916, roedd Clarke, fel un o'r prif arweinwyr, yn Swyddfa'r Post yn Nulyn. Wedi i'r gwrthryfelwyr ildio ar 29 Ebrill, daliwyd Clarke yng Ngharchar Kilmainham hyd 3 Mai, pan saethwyd ef gan y Fyddin Brydeinig. Ef oedd yr ail o'r arweinwyr i'w saethu, ar ôl Pearse. Etholwyd ei weddw, Kathleen, i'r Dail cyntaf a'r ail yn ddiweddarach.