Paisley a De Swydd Renfrew (etholaeth seneddol y DU)
Cyfesurynnau: 55°48′50″N 4°29′06″W / 55.814°N 4.485°W
Paisley a De Swydd Renfrew | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Paisley a De Swydd Renfrew yn Yr Alban. | |
Awdurdodau unedol yr Alban | Swydd Renfrew |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 2005 |
Aelod Seneddol | Mhairi Black SNP |
Crewyd o | De Paisley |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Mae Paisley a De Swydd Renfrew yn etholaeth sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Cynrychiolir yr etholaeth gan Mhairi Black ar ran Plaid Genedlaethol yr Alban, ers 8 Mai 2015.
Cynrychiolwyd yr etholaeth ers 2005 gan Douglas Alexander, a gynrychiolodd De Paisley cyn hynny. Hyd at 2005 bu'n Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid yn San Steffan. Fe'i trechwyd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 gan Mhairi Black (SNP) a hithau'n ddim ond ugain oed. Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd gyda mwyafrif o 2,541. Gwnaeth yr un peth yn 2019 gan ennill mwyafrif o 10,679.
Etholiad | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
2005 | Douglas Alexander | Llafur | |
2015 | Mhairi Black | SNP | |
2017 | Mhairi Black | SNP | |
2019 | Mhairi Black | SNP |