Mhairi Black
| Mhairi Black AS | |
| |
| Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
| Rhagflaenydd | Douglas Alexander |
|---|---|
| Geni | 12 Medi 1994 Paisley, Swydd Renfrew, Yr Alban |
| Cenedligrwydd | |
| Etholaeth | Paisley a De Swydd Renfrew |
| Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
| Alma mater | Prifysgol Glasgow |
| Galwedigaeth | Gwleidydd |
| Gwefan | http://www.snp.org/ |
Gwleidydd o'r Alban yw Mhairi Black (ganwyd 12 Medi 1994) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Paisley a De Swydd Renfrew; mae'r etholaeth yn Swydd Renfrew, yr Alban. Roedd Black yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin hyd at 2024.
Fe'i ganed yn Paisley, Swydd Renfrew yn 1994 a mynychodd Ysgol Uwchradd Lourdes, ac yna Prifysgol Glasgow ble derbyniodd Radd Dosbarth dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus ym Mehefin 2015.[1][2] Pan enillodd ei sedd fel AS roedd yn dal i astudio ar gyfer y Radd hon a hi oedd yr Aelod Seneddol ieuengaf ers y 18g.[3]
Disgrifiai ei hun fel 'sosialydd traddodiadol' ac mae wedi dyfynnu Tony Benn un o'i harwyr, ambell dro.[4] Ymhlith ei harwyr eraill mae Keir Hardie a Margo MacDonald.[5] Mae'n ffan mawr o Dîm Pêl-droed Partick Thistle.[6]
Etholiad 2015
[golygu | golygu cod]Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[7][8] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Mhairi Black 23,548 o bleidleisiau, sef 50.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +32.9 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 5,684 pleidlais.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Leask, David (1 Mehefin 2015). "Analysis: SNP bucks trend for privately educated MPs". The Herald. Cyrchwyd 1 Mehefin 2015.
- ↑ "Mhairi Black awarded first class honours degree". BBC News. 26 Mehefin 2015. Cyrchwyd 26 Mehefin 2015.
- ↑ "Meet the youngest MP elected since 1667". Newsbeat. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-21. Cyrchwyd 8 Mai 2015.
- ↑ Gander, Kashmira (15 Gorffennaf 2015). "Mhairi Black speech in full". The Independent. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2015.
- ↑ Spiers, Graham (1 Mai 2015). "Graham Spiers Article for the Times". Mhairi Black SNP: Paisley & Renfrewshire South. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-03. Cyrchwyd 18 Mai 2015.
- ↑ "Mhairi Black MP". Scottish National Party. Cyrchwyd 1 Mehefin 2015.
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban