Ochil a De Swydd Perth (etholaeth seneddol y DU)
Cyfesurynnau: 56°16′52″N 3°32′42″W / 56.281°N 3.545°W
Ochil a De Swydd Perth | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Ochil a De Swydd Perth yn Yr Alban. | |
Awdurdodau unedol yr Alban | Swydd Clackmannan |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 2005 |
Aelod Seneddol | John Nicolson SNP |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Angus Ochil Perth |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Mae Ochil a De Swydd Perth yn etholaeth sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, yn dilyn 5ed Arolwg ffiniau gan Gomisiwn Ffiniau'r Alban. Mae rhan o'r etholaeth o fewn Clackmannan a Perth a Kinross.
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Tasmina Ahmed-Sheikh, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, cipiwyd y sedd gan Luke Graham ar ran y Ceidwadwyr gyda mwyafrif o 3,359. Cipiwyd y sedd gan John Nicolson yn 2019 gan ddychwelyd yr etholaeth i ddwylo'r SNP.
Aelod Seneddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Etholiad | Aelod | Plaid | |
---|---|---|---|
2005 | Gordon Banks | Llafur | |
2015 | Tasmina Ahmed-Sheikh | SNP | |
2017 | Luke Graham | Ceidwadwyr | |
2019 | John Nicolson | SNP |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015