Gogledd-orllewin Glasgow (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia
Gogledd-orllewin Glasgow
Etholaeth Bwrdeisdref
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Gogledd-orllewin Glasgow yn Yr Alban.
Awdurdodau unedol yr AlbanGlasgow
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd2005
Aelod SeneddolCarol Monaghan SNP
Nifer yr aelodau1
Crewyd oGlasgow Anniesland
Glasgow Kelvin
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Mae Gogledd-orllewin Glasgow yn etholaeth fwrdeistrefol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae'r etholaeth yn un o saith o fewn Dinas Glasgow. Saif yr etholaeth hon ar ochr ogleddol glannau Afon Clud.

Ceir amrywiaeth cymdeithasol yn yr etholaeth sy'n cynnwys rhannau cyfoethog fel Jordanhill a Scotstoun,yn ogystal â mannau tlawd e.e. ystadau tai Drumchapel.

Am flynyddoedd, roedd hon yn ardal a bleidleisiai i'r Blaid Lafur. Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Carol Monaghan, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei gafael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]

Etholiad Aelod Plaid
2005 John Robertson Llafur
2015 Carol Monaghan Plaid Genedlaethol yr Alban
2017 Carol Monaghan Plaid Genedlaethol yr Alban
2019 Carol Monaghan Plaid Genedlaethol yr Alban

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|