Plaid Lafur yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Plaid Lafur yr Alban
Enghraifft o'r canlynolplaid wleidyddol Edit this on Wikidata
Idiolegdemocratiaeth gymdeithasol Edit this on Wikidata
Rhan oy Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1999 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolPlaid y Sosialwyr Ewropeaidd Edit this on Wikidata
PencadlysGlasgow Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://scottishlabour.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Adain o Blaid Lafur y Deyrnas Unedig ydyw Plaid Lafur yr Alban (Gaeleg: Pàrtaidh Làbarach na h-Alba[1]; Saesneg: Scottish Labour Party) sydd a'i phencadlys yn Glasgow, yr Alban.

Sefydlwyd y Scottish Advisory Council (SAC) yn 1915 gan y Blaid Lafur a chlustnodwyd yr Alban fel "rhanbarth" o Brydain ac ail-fedyddiwyd yr SAC yn Scottish Council of the Labour Party. Yn 1994, newidiwyd yr enw i Scottish Labour Party.

Bu gan Blaid Lafur yr Alban fonopoli ar fwyafrif Aelodau Seneddol y genedl rhwng y 1960au a 2009, pan gipiwyd yr awennau oddi wrthynt gan Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP). Felly hefyd pan sefydlwyd Senedd yr Alban, pan ddaeth Plaid Lafur yr Alban yn ail, eto, i'r SNP yn 1999 ac eto yn 2003. Ffurfiodd glymblaid gyda Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, gan greu mwyafrif.

Yn Etholiad yr Alban 2007, syrthiodd yn ail isel, rhy isel i ffurfio clymblaid, a ffurfiwyd Llywodraeth fwyafrifol gan y cenedlaetholwyr am y tro cyntaf yn hanes Senedd yr Alban. Yn 2015 roedd ganddi 37 o seddi allan o 129 yn Senedd yr Alban, 41 allan o 59 yn Nhŷ'r Cyffredin y Deyrnas Unedig a 2 allan o 6 yn Senedd Ewrop.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Scots Glossary – All words. Mudcat.org. Adalwyd 29 Hydref 2013.