Motherwell a Wishaw (etholaeth seneddol y DU)

Oddi ar Wicipedia
Motherwell a Wishaw
Etholaeth Bwrdeisdref
ar gyfer Tŷ'r Cyffredin
Outline map
Ffiniau Motherwell a Wishaw yn Yr Alban.
Awdurdodau unedol yr AlbanGogledd Swydd Lanark
Etholaeth gyfredol
Ffurfiwyd1997
Aelod SeneddolMarion Fellows Logo
Nifer yr aelodau1
Olynwyd ganGogledd Motherwell
De Motherwell
Crewyd oMotherwell
Gorgyffwrdd gyda:
Etholaeth Senedd EwropYr Alban

Mae Motherwell a Wishaw yn etholaeth fwrdeistrefol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae'r etholaeth o fewn y siroedd Dwyrain Swydd Dunbarton a Gogledd Swydd Lanark. Ceir etholaeth Senedd yr Alban o'r un enw.

Yn 1983 rhannwyd etholaeth Motherwell yn ddwy ran: Gogledd a De, ond fe'i hunwyd yn 1997 i greu'r etholaeth hon: Motherwell a Wishaw.

Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Marion Fellows, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd ond syrthiodd y mwyafrif i 318. Cynyddodd ei fwyafrif i 6268 yn 2019 wrth iddo gadw'r sedd am y trydydd tro.

Aelodau Seneddol[golygu | golygu cod]

Etholiad Aelod Plaid
Chwefror 1974 George Lawson Llafur
Hydref 1974 Jeremy Bray Llafur
1983 Diddymwyd yr etholaeth
1997 Frank Roy Llafur
2015 Marion Fellows SNP
2017 Marion Fellows SNP
2019 Marion Fellows SNP

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015|