Ynys Arran

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad Ynys Arran
Am yr ynysoedd yn Iwerddon, gweler Ynysoedd Arann

Ynys oddi ar arfordir gorllewinol yr Alban yw Ynys Arran (Saesneg: Isle of Arran, Gaeleg: Eilean Arainn). Saif ym Moryd Clud (aber Afon Clyde). Hi yw'r seithfed fwyaf o ynysoedd yr Alban, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 5,058. Mae'r ynys yn rhan o awdurdod lleol Gogledd Swydd Ayr.

Tref bwysicaf yr ynys yw Brodick. Yma mae'r fferi'n cyrraedd o Ardrossan ar y tir mawr. Yn y bae rhwng Lamlash a Whiting Bay mae ynys fechan Eilean MoLaise (Holy Island), lle mae mynachdy Bwdhaidd. Gellir cael fferi yno o Lamlash.

Ar ddechrau'r 20g, roedd tua hanner poblogaeth yr ynys yn medru Gaeleg, ond diflannodd yn raddol dros y ganrif. Diflannodd tafodiaith unigryw Arran yn y 1970au, pan fu farw'r siaradwr olaf, Donald Craig. Mae 1.6% o drigolion yr ynys yn medru Gaeleg, ond mewnfudwyr o rannau eraill o'r Alban ydynt.

Y fferi M.V. Caledonian Isles yn cyrraedd Brodick; llun o gopa Goat Fell

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

"Rhyfelwr Mewn Cwsg"

Mae gogledd Arran yn fynyddig. Y copa uchaf yw Gaoda Bheinn (Goatfell) (874 m,). Mae proffil y mynyddoedd gogleddol hyn o'r tir mawr yn adnabyddus fel "Rhyfelwr Mewn Cwsg" gan ei fod yn edrych fel milwr ar ei gefn a'i ddwylo ar ei fron.

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]