Natalie McGarry
| Natalie McGarry | |
| |
| Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – 3 Mai 2017 | |
| Rhagflaenydd | Margaret Curran Y Blaid Lafur |
|---|---|
| Geni | 7 Medi 1981 Inverkeithing, Fife, Yr Alban |
| Cenedligrwydd | Albanwr |
| Etholaeth | Dwyrain Glasgow |
| Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
| Alma mater | Prifysgol Aberdeen |
| Galwedigaeth | Gwleidydd |
| Gwefan | http://www.snp.org/ |
| Mae Tricia Marwick yn fodryb iddi. Partner: David Meikle. | |
Gwleidydd o'r Alban yw Natalie McGarry (ganwyd 7 Medi 1981) a oedd yn Aelod Seneddol dros Ddwyrain Glasgow rhwng 2015 a 2017. Mae Natalie'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae Tricia Marwick yn fodryb iddi.
Cafodd ei geni a'i magu yn Inverkeithing, Fife, a mynychodd yr ysgol uwchradd yn Dunfermline, cyn iddi astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberdeen. Yna bu'n gyfrifol am bolisiau elusen cenedlaethol.[1][2]
Cyd-sefydlodd y grŵp Women for Independence,[3] Mae McGarry yn aelod amlwg o'r SNP ac wedi'u cynrychioli nifer o weithiau ar y cyfryngau gan gynnwys y rhaglen boblogaidd Scotland Tonight.
Etholiad 2015
[golygu | golygu cod]Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[4][5] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Natalie McGarry 24116 o bleidleisiau, sef 56.9% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 32.1 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 10387 pleidlais.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Dinwoodie, Robbie (9 Rhagfyr 2013). "Labour goes for experience to rebuild party base in Falkirk". The Herald. Cyrchwyd 7 Chwefror 2015.
- ↑ "Why is the Scottish independence debate dominated by men?". New Statesman. 11 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 6 Ionawr 2014.
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban