Margaret Ewing
Margaret Ewing | |
---|---|
Ganwyd | 1 Medi 1945 Lanark |
Bu farw | 21 Mawrth 2006 Lossiemouth |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr |
Swydd | Member of the 2nd Scottish Parliament, Member of the 1st Scottish Parliament, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Fergus Ewing |
Gwleidydd, newyddiadurwraig ac athrawes o'r Alban oedd Margaret Bain Ewing, née Margaret Anne McAdam (1 Medi, 1945 – 21 Mawrth, 2006).[1] Roedd yn Aelod Seneddol o Blaid genedlaethol yr Alban (neu'r 'SNP') gan gynrychioli Dwyrain Swydd Dunbarton o 1974 hyd at 1979 cyn troi i gynrychioli Etholaeth Moray yn Senedd yr Alban o 1987 hyd at 2001.
Bu Ewing yn Ddirprwy Arweinydd yr SNP rhwng 1984 a 1987 ac yn arweinydd yr SNP yn Nhŷ'r Cyffredin rhwng 1987 a 1999. Ymgeisiodd hefyd am arweinyddiaeth y blaid yn 1990, ond Alex Salmond oedd yn fuddugol.
Y dyddiau cynnar
[golygu | golygu cod]Yn Lanark y cafodd ei geni, yn ferch i John McAdam, gwas fferm. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Biggar ac yna ym Mhrifysgol Glasgow gan dderbyn gradd Meistr mewn Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg. Bu'n athrawes Saesneg yn Ysgol Modan yn Stirling rhwng 1970 a 1973 ac bu'n uwch-athrawes Anghenion Arbennig yno rhwng 1973 a 1974. Roedd yn briod i Donald Bain tan eu hysgariad yn 1980. Ailbriododd yn 1983 gyda Fergus Ewing a oedd hefyd yn Aelod o Senedd yr Alban ac yn fab i Winnie Ewing AS.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ymunodd gyda'r SNP pan oedd yn ugain oed, yn 1966, ac etholwyd hi'n Aelod Seneddol yn Hydref 1974, yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig dros Ddwyrain Swydd Dunbarton dan ei henw bedydd: Margaret Bain. 22 o bleidleisiau oedd ynddi, a dim ond o drwch blewyn y llwyddodd i gipio'r sedd.[2]
Bu farw o gancr y fron yn 60 oed ar 21 Mawrth 2006.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Barry Henderson |
Aelod Seneddol dros Ddwyrain Swydd Dunbarton 1974 – 1979 |
Olynydd: Norman Hogg |
Rhagflaenydd: Alexander Pollock |
Aelod Seneddol dros Moray 1987 – 2001 |
Olynydd: Angus Robertson |
Senedd yr Alban | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Senedd yr Alban dros Moray 1999 – 2006 |
Olynydd: Richard Lochhead |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ www.parliament.uk; adalwyd 30 Ebrill 2015
- ↑ Heisey, Monica. "Making the case for an "aye" in Scotland". Queen's Alumni Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-05. Cyrchwyd 4 Ebrill 2015.