Neidio i'r cynnwys

Paul Flynn

Oddi ar Wicipedia
Paul Flynn
Ganwyd9 Chwefror 1935 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw17 Chwefror 2019 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, blogiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Cynrychiolydd Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop, Shadow Leader of the House of Commons, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.paulflynnmp.co.uk/ Edit this on Wikidata
Paul Flynn
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
Yn ei swydd
3 Gorffennaf 2016 – 6 Hydref 2016
Arweinydd Jeremy Corbyn
Rhagflaenydd Nia Griffith
Olynydd Jo Stevens
Aelod Seneddol
dros Orllewin Casnewydd
Yn ei swydd
11 Mehefin 1987 – 17 Chwefror 2019
Rhagflaenydd Mark Robinson
Olynydd Ruth Jones
Mwyafrif 5,658 (13.0%)

Gwleidydd o Gymro oedd Paul Philip Flynn (9 Chwefror 193517 Chwefror 2019)[1] a fu'n Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Plaid Lafur o 1987 hyd ei farwolaeth. Yn 2016, gwasanaethodd am gyfnod byr fel Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru ac Arweinydd Cysgodol Tŷ'r Cyffredin. Yn 81 oed, daeth yr AS hynaf mewn dros ganrif i ddal swydd yn y cabinet cysgodol.[2]

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd ac roedd ei rieni o dras Gymreig a Gwyddelig. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Sant Illtyd, ysgol ramadeg Gatholig yng Nghaerdydd. Yn 1955 aeth i weithio fel fferyllydd yn y diwydiant dur tan 1983. Daeth yn ymchwilydd ar gyfer Llew Smith, Aelod Senedd Ewrop yn 1984.[3]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Cychwynnodd ei yrfa wleidyddol yn ei 30au hwyr pan wasanaethodd ar Gyngor Dinas Casnewydd rhwng 1972 ac 1981 ac ar Gyngor Gwent rhwng 1974 ac 1982. Cystadlodd yn aflwyddiannus yn etholaeth Dinbych yn Etholiad Cyffredinol Hydref 1974.[3], lle daeth yn drydydd.

Fe'i etholwyd i'r Tŷ'r Cyffredin dros etholaeth Gorllewin Casnewydd (etholaeth seneddol) yn Etholiad Cyffredinol 1987 gan guro y Ceidwadwr Mark Robinson a oedd wedi ennill yn annisgwyl yn Etholiad 1983. Enillodd gyda mwyafrif o 2,708 pleidlais ac arhosodd yn aelod seneddol dros yr etholaeth hyd ei farwolaeth.[4]

Ar 30 Mehefin 2016, safodd Flynn dros dro ar feinciau blaen y Blaid Lafur fel Arweinydd Cysgodol Tŷ'r Cyffredin yn dilyn ymddiswyddiad Chris Bryant, cyn penodwyd unrhyw un i'r swydd yn barhaol.[5] Ar 2 Gorffennaf 2016, yn 81 oed, penodwyd Flynn yn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru, yn dilyn ymddiswyddiad deiliad y swydd Nia Griffith ac yna pleidlais o ddiffyg hyder yn arweinydd Llafur Jeremy Corbyn am nad oedd unrhyw wleidydd cymwys arall yn fodlon cymryd y swydd.[6] Ar 6 Hydref 2018, apwyntiwyd Jo Stevens yn ei le fel Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol a Valerie Vaz fel Arweinydd Cysgodol Tŷ'r Cyffredin.

Daliadau gwleidyddol

[golygu | golygu cod]

Roedd Flynn yn weriniaethwr ac yn 1996 gosododd fesur i ddiddymu'r frenhiniaeth drwy refferendwm.[7] Roedd yn wrthwynebydd ers llawer dydd o ynni niwclear, ac yn enwedig pwerdy newydd Hinkley Point C yr ochr draw i Fôr Hafren o'i etholaeth.[8][9]

Yn Nhachwedd 2017, datganodd Flynn y dylai Donald Trump gael ei arestio am annog casineb hiliol petai'n ymweld a'r DU.[10]

Ymgyrchodd Flynn dros gyfreithloni cannabis.[11] ac yn Awst 2017 dywedodd yn Nhy'r Cyffredin: "I would call on people to break the law. To come here and use cannabis here and see what happens".[12][13]

Galwodd Flynn ar Theresa May i addo ail refferendwm ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Dywedodd fod ail-feddwl bob amser yn well na meddyliau cyntaf. Atebodd May i'w alwad drwy ddweud ei fod "out of the question".[14]

Roedd Flynn yn feirniadol i'r Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol, gan ddadlau y dylid disodli'r cynllun treuliau seneddol gyda lwfans cyfradd sefydlog yn dibynnu ar bellter yr etholaeth o San Steffan. Roedd yn honni fod y cynllun presennol yn rhy fiwrocrataidd ac yn cymryd gormod o amser.[15]

Sylwadau Philip Hammond

[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 2012 cafodd ei wahardd o siambr Tŷ'r Cyffredin am bum niwrnod wedi iddo gyhuddo'r Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond o ddweud celwydd am y sefyllfa filwrol yn Affganistan.[16]

Bwriad i ymddeol

[golygu | golygu cod]

Yn Hydref 2018, cyhoeddodd Flynn y byddai'n sefyll lawr fel AS cyn yr etholiad cyffredinol nesaf oherwydd ei arthritis rhiwmatoid.[13] Datgelodd ei fod yn gaeth i'r gwely a byddai'n sefyll lawr "cyn gynted a phosib" ond fod ganddo awydd cynrychioli'r ddinas cyn hired a phosib. "Mae cost is-etholiad yn anferth. Rwy eisiau osgoi hynny os gallai". Dywedodd y byddai'n mynd i Dŷ'r Cyffredin ar stretsier os oedd rhaid iddo, er mwyn cymryd rhan mewn unrhyw bleidlais ar fargen Brexit yn y senedd.[17] Fodd bynnag, fe oedd yr unig AS (heblaw y Llefarydd, Dirprwy Lefarwyr, cyfrifwyr ac aelodau Sinn Féin) wnaeth ddim bleidleisio yn y "bleidlais arwyddocaol" ar 15 Ionawr 2019.[18]

Gweithgareddau arall

[golygu | golygu cod]

Roedd Flynn yn siarad Cymraeg yn rhugl, wedi dysgu yr iaith fel oedolyn, ac roedd yn gyfrannwr cyson ar teledu a radio Cymraeg. Yn 1996, enillodd wobr 'Meinciwr Cefn y Flwyddyn' gan The Spectator', ac yn 1997 ysgrifennodd lyfr, Commons Knowledge: How to be a Backbencher.[3]

Roedd Flynn yn un o'r aelodau seneddol cyntaf i ddefnyddio'r rhyngrwyd i gyfathrebu a'i etholwyr ac enillodd Wobr Cyfryngau Newydd am ei wefan yn 2000 gan y New Statesman ,[19] a bleidleiswyd hefyd fel y wefan AS gorau ar sawl achlysur.[20] Roedd yn fabwysiadwr cynnar o CD-ROMau Hansard, ac ysgrifennodd lyfr, Dragons Led By Poodles, am yr ymgyrch ddatganoli i Gymru yn y 1990au, lle roedd yn feirniadol iawn o rhai o'i gyd-aelodau seneddol.[21]

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Roedd yn briod ddwywaith, yn gyntaf i Anne Harvey yn 1962, a cawsant dau blentyn, mab a merch; bu farw ei merch drwy hunan-laddiad yn 1979, yn 15 oed.[22] Ysgarodd y cwpl yn 1984 a'r flwyddyn ganlynol priododd Samantha Morgan Cumpstone, a cawsant ddau blentyn.[23]

Yn 2007 cafodd Flynn strôc bychan.[24] Bu farw ar 17 Chwefror 2019, yn 84 oed, ar ôl salwch hir. Yn dilyn y newyddion, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fod Flynn yn "gawr y mudiad Llafur". Dywedodd arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, fod Flynn yn "feddyliwr annibynnol oedd yn glod i'w blaid" a roedd yn "drist iawn o golli fy ffrind da iawn, Paul Flynn".[1] Talwyd teyrngedau iddo ar draws y pleidiau am ei garedigrwydd, ei onestrwydd a'i gyfraniad i fywyd cyhoeddus Cymru.[25]

Cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd ar ddydd Gwener, 22 Mawrth 2019 lle roedd y galarwyr yn cynnwys Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns a Jeremy Corbyn.[26]

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Paul Flynn, yr aelod seneddol Llafur, wedi marw’n 84 oed , Golwg360, 18 Chwefror 2019.
  2. "Paul Flynn makes comeback as shadow minister aged 81". ITV News (yn Saesneg). 30 Mehefin 2016. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2016.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 "Obituary: Newport West Labour MP Paul Flynn" (yn en). BBC News. 18 Chwefror 2019. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-40643614. Adalwyd 18 Chwefror 2019.
  4. Newport West MP Paul Flynn gained a reputation as a man who never minced his words (en) , South Wales Argus, 18 Chwefror 2019.
  5. "Labour MP Paul Flynn claims promotion 'part of diversity project'". BBC News. 30 Mehefin 2016. Cyrchwyd 30 Mehefin 2016.
  6. Silk, Huw (3 Gorffennaf 2016). "Newport MP Paul Flynn, 81, appointed shadow Welsh secretary by Labour leader Jeremy Corbyn". WalesOnline. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2016.
  7. "Labour man seeks vote to end the monarchy". The Independent (yn Saesneg). 21 Ebrill 1996. Cyrchwyd 18 Chwefror 2019.
  8. Williamson, David (2 Ebrill 2013). "Paul Flynn in call for UK to pull out of nuclear power". Wales Online. Cyrchwyd 3 Awst 2018.
  9. Craven, Neil (1 Tachwedd 2015). "MPs attack 'desperate' £25bn Hinkley nuclear power station plan". This is Money. Cyrchwyd 3 Awst 2018.
  10. Post reply (30 Tachwedd 2017). "Donald Trump "should be arrested for inciting racial hatred": MP Paul Flynn". South Wales Argus. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2018.
  11. David Batty, Labour MPs support medicinal cannabis use, The Guardian, 24 May 2006.
  12. "Paul Flynn MP: People should take cannabis in Parliament to show the 'law is an ass' - Left Foot Forward". leftfootforward.org.
  13. 13.0 13.1 "Veteran Labour MP Paul Flynn dies aged 84". BBC News. 17 February 2019. Cyrchwyd 18 February 2019.
  14. "Brexit: MP Paul Flynn urges second referendum - BBC News". Bbc.co.uk. 23 Hydref 2017. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2018.
  15. Kate McCann, Senior Political Correspondent (30 Awst 2016). "Parliamentary expenses should be scrapped and MPs trusted with an allowance, says top Corbyn ally". Telegraph.co.uk. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2018.
  16.  Gwahardd Paul Flynn o'r Senedd. BBC (18 Medi 2012). Adalwyd ar 19 Medi 2012.
  17. "Newport West MP Paul Flynn to stand down after 31 years". BBC News. 25 Hydref 2018. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2018.
  18. "European Union (Withdrawal) Act main Motion (Prime Minister) - CommonsVotes". commonsvotes.digiminster.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-16. Cyrchwyd 2019-02-18.
  19. "Members Of Parliament in Newport" (yn Saesneg). South Wales Argus. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Gorffennaf 2013. Cyrchwyd 9 Medi 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  20. "British Computer Society Awards Best MP Websites" (yn Saesneg). British Computer Society. 8 Tachwedd 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-27. Cyrchwyd 9 Medi 2013.
  21. Dragons and Poodles – a story of Welsh politics BBC News Wednesday, 15 Medi 1999
  22. "Life can hold no worse pain... Paul Flynn MP on the day he lost his beautiful teenage daughter". Daily Mail (yn Saesneg). 27 Chwefror 2010. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2016.
  23. 23.0 23.1 23.2 23.3 23.4 23.5 23.6 "Paul, Who?". Paul Flynn MP (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-12. Cyrchwyd 3 Gorffennaf 2016.
  24. Claire Truscott (21 Tachwedd 2007). "MP recovering after mini-stroke". The Guardian (yn Saesneg). London. Cyrchwyd 22 Mai 2010.
  25. Y byd gwleidyddol yn talu teyrnged i’r diweddar Paul Flynn , Golwg360, 18 Chwefror 2019.
  26. Cynnal angladd y gwleidydd Paul Flynn yng Nghasnewydd , BBC Cymru Fyw, 22 Mawrth 2019. Cyrchwyd ar 23 Mawrth 2019.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i:
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Mark Robinson
Aelod Seneddol dros Orllewin Casnewydd
19872019
Olynydd:
Ruth Jones