Pleidlais amgen
Gwedd
| Math | pleidleisio ffafriol, Winner-take-all system |
|---|---|
| Rhan o | democratiaeth |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03w7t |
| Quora | Alternative-vote |
System etholiadol sydd yn ethol un enillydd trwy bleidleisio ffafriol yw'r bleidlais amgen (AV).[1] Mae pleidleiswyr yn dewis ymgeiswyr yn ôl y trefn maent yn eu ffafrio, yn hytrach na dewis un ymgeisydd yn unig fel y wneir yn system y cyntaf i'r felin. Os nad yw'r un ymgeisydd yn derbyn mwyafrif o bleidleisiau o ffafriaeth gyntaf, yna dileir yr ymgeisydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau o'r ras a dosbarthir ail bleidleisiau ar y papurau pleidleisio hynny i'r ymgeiswyr eraill. Ailadroddir y broses tan fod gan un ymgeisydd fwyafrif o bleidleisiau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ O'r Saesneg: alternative vote.