Gerentocratiaeth

Oddi ar Wicipedia

Gerentocratiaeth (Saesneg Gerontocracy) yw system sy'n hyrwyddo oedran person fel maen prawf ar gyfer dethol llywodraeth.

Cafodd y syniad ei ffurfioli gyntaf yng Ngroeg yr Henfyd, er ei fod yn debyg bod dylanwad yr hen ar lywodraeth llwythau yn hŷn o lawer, fel yr awgryma'r dihareb Gymraeg: "Yr hen a ŵyr a'r ifanc a dybia". Fe ddywedodd Plato "rhan yr hynafgwyr yw reoli a rhan y gwŷr iau yw ufuddhau". Roedd dinas-wladwriaeth Sparta'n cael ei rheoli gan y Gerousia, sef cyngor o bobl oedd dros eu trigain oed wrth gychwyn yn y swydd, ac oedd yn parhau yn eu swydd am weddill eu bywyd.

Mae'r gair senedd[1] yn dod o'r Lladin, y mae gwreiddyn y sen yn nechrau'r gair "Senedd" yr un fath a'r sen mewn geiriau megis senile, sentimental ac ati sef senex - hen ddyn.

Prin yw'r enghreifftiau o lywodraethau cyfoes sy'n statudol yn gerentocrataidd ond mae ambell i system wleidyddol yn arwain at gerentocratiaeth - megis brenhiniaeth neu unbennaeth, lle mae arweinwyr yn aros yn eu swydd hyd farwolaeth. Mae Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig, a phennaeth swyddogol y wladwriaeth, ymhell dros ei 80 oed ac mae ei olynydd tybiedig eisoes ymhell dros ei 60 oed. Bu nifer o arweinwyr Comiwnyddol y byd yn arwain eu gwledydd hyd nes iddynt farw yn eu 70au neu eu 80au, er enghraifft: Leonid Brezhnev (75) a Mao Zedong (82).

Mae systemau democrataidd yn gallu arwain at gerentocratiaeth anfwriadol, pan fo modd i berson ennill sedd saff am oes.

Yn y Deyrnas Unedig bydd nifer o hen wleidyddion sydd yn ymddeol o'u seddi, neu yn colli eu seddi, yn cael eu dyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi, uwch siambr y llywodraeth, am weddill eu hoes.

Yn 2004 penderfynodd Llywodraeth Cymru gynnig Ta Ta Aur i Gynghorwyr Sir Cymru a oedd yn eu penwynni, er mwyn lleihau cyfartaledd oedran y cynghorwyr; costiodd £1,600,000 mewn taliadau, ond heb wneud y nesaf peth i ddim at leihau cyfartaledd oedran y cynghorwyr a etholwyd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Free Dictinary SENATE [1] adalwyd 11 Gorff 2015
  2. Newyddion BBC Wales - Councillors not getting younger [2] adalwyd 11 Gorff 2015