Sudeten
Gwedd
Math | cadwyn o fynyddoedd, geomorphological subprovince, low mountain range |
---|---|
Enwyd ar ôl | Giant Mountains, Jeseníky |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Tsiecia, Gwlad Pwyl, yr Almaen |
Arwynebedd | 49,739 km² |
Cyfesurynnau | 50.7361°N 15.74°E |
Hyd | 300 cilometr |
Cadwyn fynydd | Bohemian Massif |
Cadwyn o fynyddoedd yng nghanolbarth Ewrop yw'r Sudeten (Almaeneg: Sudeten, Tsieceg a Pwyleg: Sudety). Maent ar y ffîn rhwng yr Almaen, Gwlad Pwyl a Gweriniaeth Tsiec.
Daw'r enw o'r Lladin Sudeti montes. Maent yn ymestyn am tua 330 km rhwng afon Elbe yn y gorllewin a Porth Morafia yn y dwyrain. Y copa uchaf yw Sněžka, 1602 m. o uchder, ar y ffîn rhwng Gwlad Pwyl a Gweriniaeth Tsiec. Rhoddodd y mynyddoedd eu henw i ranbarth y Sudetenland.