Afon Oder

Oddi ar Wicipedia
Afon Oder
Mathafon, y brif ffrwd, Veletok Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaQ124728109 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBrandenburg, Opole Voivodeship, Lower Silesian Voivodeship, Silesian Voivodeship, Lubusz Voivodeship, West Pomeranian Voivodeship, Olomouc Region, Moravian-Silesian Region Edit this on Wikidata
GwladGwlad Pwyl, tsiecia, yr Almaen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau49.6133°N 17.5208°E, 53.6017°N 14.5897°E Edit this on Wikidata
TarddiadQ110016523 Edit this on Wikidata
AberY Môr Baltig, Szczecin Lagoon Edit this on Wikidata
LlednentyddDoubravka, Psina, Osobłoga, Oława, Kaczawa, Bóbr, Afon Neisse, Welse, Warta, Lubina, Widawa river, Cicha Woda, Ilanka, Pliszka, Barycz, Jezierzyca, Zimnica, Nysa Kłodzka, Stradunia, Camlas Kłodnica, Ślęza, Opava, Łarpia, Bystrzyca, Olza, Ostravice, Mała Panew, Gunica, Ina, Kłodnica, Gowienica, Gręziniec, Tywa, Wietlina, Babina, Bukowa (Tributary of Oder), Rurzyca, Słubia, Iński Nurt, Kurowski Canal, Leśny, Krępa, Myśla, Parnica, Przekop Mieleński, Regalica, Luha, Bečva, Střelenský Edit this on Wikidata
Dalgylch125,000 cilometr sgwâr, 118,900 cilometr sgwâr, 106,056 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd854 cilometr, 742 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad480 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Afon yng nghanolbarth Ewrop yw afon Oder (Tsieceg a Pwyleg: Odra). Mae'n 854.3 km o hyd, ac yn llifo trwy rannau o'r Weriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl a'r Almaen i gyrraedd y Môr Baltig.

Ceir tarddiad yr afon yn y Sudeten, i'r dwyrain o ddinas Olomouc yn rhanbarth Morafia o'r Weriniaeth Tsiec. Mae'n llifo heibio dinas Ostrava i Wlad Pwyl, lle mae'n llifo trwy Silesia. Wedi i afon Neisse (Pwyleg: Nysa) ynuno a hi, mae'r afon yn ffurfio'r ffîn rhwng Gwlad Pwyl a'r Almaen am 162 km. Am y 59 km olaf o'i chwrs, mae'r Oder yn dychwelyd i fod o fewn Gwlad Pwyl. Gerllaw dinas Szczecin mae'n llifo i mewn i'r Oderhaf, sy'n arwain i'r môr.

Mae Szczecin, ar lan chwith yr Oderhaf, yn borthladd pwysig. Mae Wrocław hefyd yn borthladd o bwys. Dinasoedd pwysig eraill ar hyd yr Oder yw Ostrava (Gweriniaeth Tsiec), Opole a Racibórz (Gwlad Pwyl) a Frankfurt an der Oder (yr Almaen). Y fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i'r Oder yw afon Warta.

Cwrs afon Oder
Afon Oder yn Szczecin.