Uchel Ddugiaeth Lithwania

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Uchel Ddugiaeth Lithwania
Lietuvos Didžioji Kunigaikštystė
(Lithwaneg)
c. 1236–17951
 

Y faner frenhinol Arfbais
Map o Uchel Ddugiaeth Lithwania ar ei hanterth yn y 15g, wedi ei gosod ar ffiniau modern.
Prifddinas
Ieithoedd Lithwaneg, Rwtheneg, Pwyleg, Lladin, Almaeneg
Crefydd
Llywodraeth
Uchel Ddugiaeth
 -  1236–1263 (ers 1251 yn Frenin) Mindaugas (cyntaf)
 -  1764–1795 Stanisław August Poniatowski (olaf)
Deddfwrfa Seimas
 -  Cyfrin Gyngor Cyngor yr Arglwyddi
Hanes
 -  Dechrau'r broses uno 1180au
 -  Teyrnas Lithwania 1251–1263
 -  Undeb Krewo 14 Awst 1385
 -  Undeb Lublin 1 Gorffennaf 1569
 -  Y Trydydd Rhaniad 24 Hydref 1795
Arwynebedd
 -  1260 200,000 km² (77,220 sq mi)
 -  1430 930,000 km² (359,075 sq mi)
 -  1572 320,000 km² (123,553 sq mi)
 -  1791 250,000 km² (96,526 sq mi)
 -  1793 132,000 km² (50,965 sq mi)
Poblogaeth
 -  1260 amcan. 400,000 
     Dwysedd 2 /km²  (5.2 /sq mi)
 -  1430 amcan. 2,500,000 
     Dwysedd 2.7 /km²  (7 /sq mi)
 -  1572 amcan. 1,700,000 
     Dwysedd 5.3 /km²  (13.8 /sq mi)
 -  1791 amcan. 2,500,000 
     Dwysedd 10 /km²  (25.9 /sq mi)
 -  1793 amcan. 1,800,000 
     Dwysedd 13.6 /km²  (35.3 /sq mi)
1. Bwriadwyd sefydlu gwladwriaeth unedol gan Gyfansoddiad 3 Mai 1791, a fyddai'n diddymu Uchel Ddugiaeth Lithwania. Serch hynny, adferwyd yr Uchel Ddugiaeth gan atodiad i'r cyfansoddiad ar 20 Hydref 1791.[1]

Gwladwriaeth yn Nwyrain Ewrop oedd Uchel Ddugiaeth Lithwania (Lithwaneg: Lietuvos Didžioji Kunigaikštystė) a fodolai o'r 13g hyd at ei huniad â Theyrnas Pwyl i ffurfio'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd ym 1569. Roedd yn cwmpasu'r diriogaeth sydd heddiw yn cyfateb i Lithwania, Belarws, a gorllewin yr Wcráin.

Unodd y llwythau Baltig Lithwaneg, y bobloedd baganaidd olaf yn Ewrop, dan arweiniad Mindaugas yng nghanol y 13g gan ffurfio cenedl y Lithwaniaid. Datblygodd Lithwania yn wladwriaeth gydlynol gryf dan yr Uchel Ddug Gediminas (t. 1316–41). Yn ystod ei deyrnasiad ef, adeiladwyd y brifddinas Vilnius, ymestynnodd ffiniau'r Uchel Ddugiaeth hyd at Afon Dnieper yn y de-ddwyrain a Chorsydd Pripet yn y de a thu hwnt i Afon Dvina yn y gogledd-ddwyrain, a fe lwyddodd wrthsefyll ymdrechion y Babaeth i Gristioneiddio'i bobl. Gorchfygwyd rhagor o dir i'r dwyrain yn ystod teyrnasiad Algirdas yng nghanol y 14g, o'r Môr Baltig hyd at lannau'r Môr Du, a daeth nifer o Rwsiaid a Thatariaid dan awdurdod yr Uchel Ddugiaeth. Dylanwadwyd yn fawr ar gymdeithas a gwleidyddiaeth Uchel Ddugiaeth Lithwania gan ei deiliaid Rwsiaidd, ac aethpwyd ati i ad-drefnu'r fyddin, gweinyddiaeth y llywodraeth, y gyfraith, a'r gyfundrefn ariannol ar batrwm y Rwsiaid. Rhoddwyd hefyd caniatâd i'r bendefigaeth Rwsiaidd gadw at ei ffydd Uniongred, ei breintiau, a'i hawdurdod ar raddfa leol.

Bu hanes y Lithwaniaid hefyd ynghlwm â'u cymdogion i'r gorllewin, ac yn y cyfnod hwn gorfodwyd iddynt o'r diwedd droi'n Gristnogion. Ym 1385, wedi cyfnod hir o gyrchoedd gan y Marchogion Tiwtonaidd a Lifonaidd, cytunodd yr Uchel Ddug Jogaila, drwy Undeb Krewo, i dderbyn ffydd yr Eglwys Gatholig ac i briodi brenhines Gwlad Pwyl. Cymerodd yr enw Pwyleg Władysław II Jagiełło a deyrnasodd ar Lithwania a Gwlad Pwyl. Er i Wlad Pwyl ddylanwadu'n fwyfwy ar Lithwania, cadwodd yr Uchel Ddugiaeth ei hymreolaeth a llwyddai i ymestyn ei ffiniau ymhellach i'r dwyrain, hyd at afonydd Ugra ac Oka yn ystod teyrnasiad Vytautas yn nechrau'r 15g. Bu lluoedd Lithwania a Gwlad Pwyl yn drech na'r Marchogion Tiwtonaidd ym Mrwydr Tannenberg ym 1410, a daeth Samogitia dan reolaeth yr Uchel Ddugiaeth. Aeth y berthynas rhwng y ddwy wlad yn agosach yn sgil coroni'r Uchel Ddug Casimir yn Frenin Gwlad Pwyl ym 1447. Rhodd Casimir siarter i'r boiariaid yn Lithwania i ddiogelu eu breintiau ac i gynyddu eu grym gwleidyddol.

Gwanhaodd awdurdod yr uchel ddugiaid wedi oes Casimir, ac nid oedd modd iddynt atal cyrchoedd y Tatariaid a oedd yn anrheithio'r deheudiroedd. Cyfeddiannwyd tywysogaethau Novgorod (ym 1479) a Tver (ym 1485) gan Uchel Ddugiaeth Moscfa, a fyddai hefyd yn cipio rhyw draean o diroedd Rwsiaidd Lithwania ym 1499–1503 a Smolensk ym 1514. Er gwaethaf ei golledion tiriogaethol, ffynnodd economi Lithwania yn ystod yr 16g, i raddau o ganlyniad i ddiwygiadau amaethyddol.[2] Fodd bynnag, bu Rhyfel Lifonia (1558–83) yn straen ar adnoddau'r Uchel Ddugiaeth, a bu'n rhaid troi at Wlad Pwyl am gymorth. Wedi i Sigismund II Augustus gyfeddiannu rhyw draean o diriogaeth Lithwania (Volhynia, Kiev, Bratslav, a Podlasia) i Wlad Pwyl, gorfodwyd i'r Uchel Ddugiaeth dderbyn Undeb Lublin (1569) gan uno'r ddwy wladwriaeth ar ffurf y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd.

Yn ôl telerau'r undeb, parhaodd Lithwania yn wladwriaeth ar wahân yn swyddogol, a chanddi statws cyfartal â Gwlad Pwyl yn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Serch hynny, yn fuan bu Lithwania yn ddarostyngedig i Wlad Pwyl, a mabwysiadodd y bonedd Lithwanaidd arferion ac iaith y Pwyliaid. Goroesai hunaniaeth a diwylliant Lithwanaidd ymhlith y werin, ond i bob pwrpas cafodd Lithwania ei ymgorffori â Gwlad Pwyl dan drefn y Gymanwlad, o 1569 hyd at raniadau'r Bwyldir yn niwedd y 18g. Dadsefydlwyd Uchel Ddugiaeth Lithwania yn swyddogol ym 1795, a chafodd y diriogaeth ei rhannu rhwng Ymerodraeth Rwsia a Theyrnas Prwsia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Tumelis, Juozas. "Abiejų Tautų tarpusavio įžadas". Vle.lt (yn Lithwaneg). Cyrchwyd 9 April 2021.
  2. (Saesneg) Grand Duchy of Lithuania. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Mehefin 2021.