Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd

Oddi ar Wicipedia
Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd
Rzeczpospolita Obojga Narodów
(Pwyleg)
Res Publica Utriusque Nationis
(Lladin)
Ffederasiwn deuarchaidd
Teyrnas Gwlad Pwyl|
 

1569–1795
 

 

Y faner frenhinol (c. 1605) Yr arfbais frenhinol
Arwyddair
Location of {{{common_name}}}
Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd (gwyrdd), a'i gwladwriaethau caeth (gwyrdd golau), ar ei hanterth ym 1619.
Prifddinas

(de jure)

  • Kraków (1569–1596)
  • Warsaw (1596–1795)

(de facto)

Ieithoedd Swyddogol:
Pwyleg a Lladin
Crefydd Swyddogol:
Yr Eglwys Gatholig
Llywodraeth
Brenin / Uchel Ddug
 -  1569–1572 Zygmunt II August (cyntaf)
 -  1764–1795 Stanisław August Poniatowski (olaf)
Deddfwrfa Sejm
 -  Cyfrin Gyngor Senedd
Cyfnod hanesyddol Y cyfnod modern cynnar
 -  Undeb Lublin 1 Gorffennaf 1569
 -  Rhaniad 1af 5 Awst 1772
 -  Cyfansoddiad 3 Mai 3 May 1791
 -  2il Raniad 23 Ionawr 1793
 -  3ydd Rhaniad 24 Hydref 1795
Poblogaeth
 -  1582 amcan. 8,000,000 
     Dwysedd 9.8 /km²  (25.4 /sq mi)
 -  1618 amcan. 12,000,000 
     Dwysedd 12 /km²  (31.1 /sq mi)

Gwladwriaeth yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop oedd y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd a fodolai o 1569 i 1795. Ffurfiwyd y ffederasiwn deuarchaidd drwy gyfuno Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania. Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd oedd un o wladwriaethau mwyaf Ewrop yn ystod y cyfnod modern cynnar, ac yn cynnwys bron 400,000 milltir sgwâr a rhyw 11 miliwn o bobl ar ei heithaf yn nechrau yr 17g. Yn ffurfiol, cafodd ei alw gan yr enw hir Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania (Pwyleg: Królestwo Polskie i Wielkie Księstwo Litewskie, Lithwaneg: Lenkijos Karalystė ir Lietuvos Didžioji Kunigaikštystė, Lladin: Regnum Poloniae Magnusque Ducatus Lithuaniae), neu Gymanwlad y Ddwy Genedl (Pwyleg: Rzeczpospolita Obojga Narodów, Lladin: Res Publica Utriusque Nationis). Defnyddiwyd yr enw Gwlad Pwyl yn aml i ddisgrifio'r holl Gymanwlad.

Gwlad aml-ethnig ac amlieithog oedd y Gymanwlad, gan gynnwys Pwyliaid, Lithwaniaid, Rwtheniaid, Almaenwyr, Iddewon, a chymunedau bychain o Datariaid, Armeniaid, ac Albanwyr.[1] Roedd hefyd sawl crefydd, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig, Protestaniaeth, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, Iddewiaeth, ac Islam. Bu ambell gymuned yn meddu ar rywfaint o hunanlywodraeth, er enghraifft Cyngor y Pedair Gwlad a oedd yn arfer y gyfraith Iddewig.

Ieithoedd[golygu | golygu cod]

  • Pwyleg - un o ieithoedd swyddogol y wladwriaeth, iaith y rhan fwyaf o'r bonedd, a'r brif iaith yn ninasoedd a threfi'r wlad.
  • Lladin – yr iaith swyddogol arall, defnyddiwyd Lladin wrth ymdrin â gwledydd eraill, ac fel ail iaith ymysg y bonedd.
  • Ffrangeg – mewn gwirionedd, defnyddiwyd mwy o Ffrangeg nag o Ladin yn llys y Brenin o ddechrau'r 18fed ganrif ymlaen. Defnyddiwyd y Ffrangeg yn iaith gwyddoniaeth a llenyddiaeth.
  • Iaith Slafonaidd Ddwyreiniol - a gelwid yn Rwscieg (руски езыкъ) ar y pryd. Hyd at 1697 roedd yn iaith swyddogol yn yr Uchel Ddugiaeth (Lithwania). Disgynyddion yr iaith hon a'i thafodieithoedd yw Wcreineg, Belarwseg a Rusyn. Dyma oedd y brif iaith yn rhannau ddwyreiniol y wlad.
  • Lithwaneg – nid oedd yn iaith swyddogol. Siaradwyd yr iaith yn rhan ogleddol y wlad, sy'n cyfateb yn fras i'r Lithwania fodern, sy'n llai nag oedd Ddugiaeth.
  • Almaeneg - defnyddiwyd yr iaith gan leiafrif yn y dinasoedd.
  • Hebraeg – defnyddiwyd yr ieithoedd Hebraeg ac Aramaeg gan Iddewon wrth ymdrin â materion crefyddol, ysgolheigaidd a chyfreithiol.
  • Iddew-Almaeneg – dyma oedd iaith bob dydd yr Iddewon, ac felly'n un o brif ieithoedd dinasoedd y wlad
  • Eidaleg – iaith leiafrifol
  • Armeneg – iaith leiafrifol
  • Arabeg – defnyddiwyd Arabeg gan y Tatariaid ar gyfer materion crefyddol. Roeddynt hefyd yn ysgrifennu Rwscieg (gw. uchod) gan ddefnyddio'r Wyddor Arabeg.

Diwedd y gymanwlad[golygu | golygu cod]

Ym 1777, 1793 ac 1795, rhannwyd tiriogaeth y gymanwlad rhwng Prwsia, Ymerodraeth Rwsia, a'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd (Awstria-Hwngari). Wedi 1795, daeth y gymanwlad i ben, a bu'n rhaid aros nes 1918 nes i Wlad Pwyl a Lithwania ddod yn annibynnol. Yn ogystal â'r ddwy wlad hynny, mae tiriogaeth y gymanwlad gynt bellach yn cynnwys rhannau o'r Wcráin, Moldofa (Transnistria), Belarws, Rwsia, Latfia ac Estonia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Peter Paul Bajer, Scots in the Polish-Lithuanian Commonwealth, 16th–18th Centuries: The Formation and Disappearance of an Ethnic Group (Leiden: Brill, 2012).