Gwledydd Baltig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Y Gwledydd Baltig

Tair gwlad sy'n ffinio â'r Môr Baltig yng Ngogledd-Ddwyrain Ewrop yw'r gwledydd Baltig: Estonia, Latfia, a Lithwania.[1]

Baltwyr yw'r Latfiaid a'r Lithwaniaid, sy'n siarad yr ieithoedd Baltig Latfieg a Lithwaneg. Mae'r Estoniaid yn Falto-Ffiniaid sy'n siarad yr iaith Ffinno-Wgrig Estoneg. Ceir lleiafrifoedd eraill yn y gwledydd Baltig o dras Almaenig a Rwsiaidd.

Mae'r cysyniad o'r gwledydd Baltig cyn yr 20g yn ddadleuol. Mae gan Estonia gysylltiadau agosach â gwledydd Llychlyn, ac yn hanesyddol bu perthynas glos rhwng Lithwania a Gwlad Pwyl. Enillodd y dair gwlad annibyniaeth oddi ar Ymerodraeth Rwsia yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd eu meddiannu gan yr Undeb Sofietaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a ni ad-enillodd eu hannibyniaeth hyd nes diddymiad yr Undeb Sofietaidd ym 1991.

Gellir gwahaniaethu'r enw "gwledydd Baltig" oddi ar y term "gwledydd y Môr Baltig", sydd yn cynnwys pob gwlad sydd yn ffinio â'r Baltig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Baltic states. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Awst 2014.