Plaid Unoliaethol Ulster

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Plaid Unoliaethol Wlster)
Jump to navigation Jump to search
Plaid Unoliaethol Ulster
Arweinydd Robin Swann MLA
Llywydd May Steele
Cadeirydd The Lord Empey
Sefydlwyd 3 Mawrth 1905
Rhagflaenwyd gan Irish Unionist Alliance
Pencadlys Strandtown Hall,
2-4 Belmont Road,
Belfast, County Down,
Gogledd Iwerddon
Asgell yr ifanc Young Unionists
Rhestr o idiolegau Unoliaethwyr Prydeinig[1]
Ceidwadaeth[1]
Gwrth-Ewrop[1]
Sbectrwm gwleidyddol Canol-Dde[2]
Partner rhyngwladol None
Cysylltiadau Ewropeaidd Cynghrair Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop
Grŵp yn Senedd Ewrop Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop
Lliw Coch, glas a gwyn
Tŷ'r Cyffredin
0 / 18
Tŷ'r Arflwyddi
2 / 784
Senedd Ewrop
1 / 3
Cynulliad Gogledd Iwerddon
10 / 90
Cynghorau lleol
84 / 462
Gwefan
Gwefan swyddogol

Plaid Unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon yw Plaid Unoliaethol Ulster (Saesneg: Ulster Unionist Party neu UUP).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Fel rhan o’r cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r cenedlaetholwyr Gwyddelig yn 1921, cytunwyd i rannu Iwerddon. Daeth 26 o siroedd Iwerddon yn annibynnol yn 1922 fel Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, tra parhaodd chwech sir yn y gogledd-ddwyrain (allan o’r naw sir sy’n ffurfio Wlster) yn rhan o'r Deyrnas Unedig gyda senedd ddatganoledig yn Stormont. Daeth Syr James Craig yn Brif Weinidog. O 1929 ymlaen, Plaid Unoliaethol Ulster oedd y brif blaid Unoliaethol, a bu mewn grym am hanner can mlynedd.

Dros y blynyddoedd bu trigolion Catholig Gogledd Iwerddon dan anfanteision o ran cael swyddi, cael tai a materion eraill, gyda Protestaniad yn cael eu ffafrio. Yn y 1960au, ceisiodd y Prif Weinidog Terence O'Neill newid rhywfaint ar y system, ac wedi iddo ef ymddiswyddo, parhawyd hyn gan ei olynydd, James Chichester-Clark, ond gwrthwynebid hyn gan lawer o Unoliaethwyr, megis Ian Paisley.

David Trimble oedd arweinydd y blaid rhwng 1995 a 2005. Roedd ei gefnogaeth i Gytundeb Belffast yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arwenydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 "NORTHERN IRELAND / UK". Parties and Elections in Europe.
  2. Ari-Veikko Anttiroiko; Matti Mälkiä (2007). Encyclopedia of Digital Government. Idea Group Inc (IGI). pp. 394–. ISBN 978-1-59140-790-4.
Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
NIShape.gif Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.