Coleg Cambria

Oddi ar Wicipedia
Coleg Cambria
Mathcoleg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2013 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGlannau Dyfrdwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.23°N 3.08°W Edit this on Wikidata
Map

Lleolir Coleg Cambria yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac mae'n un o golegau addysg bellaf mwyaf y DU, [1] gyda dros 7,000 o fyfyrwyr amser llawn ac 20,000 o fyfyrwyr rhan-amser. Mae mae ganddo gysylltiadau rhyngwladol ar draws pedwar cyfandir. Crëwyd Coleg Cambria yn dilyn uno

Coleg Glannau Dyfrdwy
Coleg Iâl, Wrecsam

Dechreuodd Coleg Cambria weithredu ar 1 Awst 2013. [2] Mae Coleg Cambria yn gymuned oedolion ifanc ar gyfer pobl 16 oed a hŷn. Mae'n rhan o rwydwaith i'r sector, ColegauCymru.

Maint[golygu | golygu cod]

Mae’n gwasanaethu ardaloedd tri awdurdod lleol gyda chyfanswm poblogaeth o bron i 400,000: sef, oddeutu 12% o boblogaeth Cymru. [3] Mae'r coleg yn gweithio mewn partneriaeth â dros 1000 o gyflogwyr gan gynnwys Airbus, JCB, Kelloggs, Kronospan, Moneypenny, UPM Shotton Paper a Village Bakery . [3]

Enillodd Coleg Cambria Her Menter Fyd-eang 2015 . [4]

Ym mis Tachwedd 2015, cafodd y coleg ei arolygu gan Estyn a chafodd sgôr ardderchog o ran perfformiad presennol a rhagolygon gwella. [5]

Lleoliadau[golygu | golygu cod]

Senedd Wrecsam Coleg Cambria yn meddiannu diwyddiad "Dy Gynulliad" tu allan i gampws Wrecsam (2015)

Mae gan Goleg Cambria bum campws ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru: Glannau Dyfrdwy, Coleg Iâl gynt (Grove Park a Ffordd y Bers yn Wrecsam), Llysfasi, a Llaneurgain.

Enw[golygu | golygu cod]

Coleg yw'r gair Cymraeg am goleg a Cambria yw'r enw Lladin am Gymru, yn tarddu o'r enw Cymraeg Cymru.

Coleg Cambria a'r Gymraeg[golygu | golygu cod]

Mae'r coleg yn cynnig cyrsiau i ddysgu'r Gymraeg.[6] Cynhelir rhan gan Cymraeg i Oedolion (Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol), y Coleg a Canolfan Iaith Clwyd.

[golygu | golygu cod]

Cafodd y 'dyluniad sbectrwm' ei ddatblygu a'i ddewis gyda chefnogaeth gan fyfyrwyr, staff, Llywodraethwyr a busnesau lleol a'i fwriad yw dynodi amrywiaeth a chynwysoldeb y coleg. Mae'r marc sbectrwm hefyd yn ffurfio llythyren haniaethol C .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. bbc.co.uk - Deeside and Yale colleges merge as Coleg Cambria
  2. legislation.gov.uk - The Coleg Cambria (Incorporation) Order 2013
  3. 3.0 3.1 "www.cambria.ac.uk - Coleg Cambria - Vision for Excellence" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-04-02. Cyrchwyd 2013-08-22.
  4. "Results from the 2015 Global Enterprise Challenge". The Global Enterprise Challenge - ABW Enterprise Education. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-06-04. Cyrchwyd 3 March 2017.
  5. "Coleg Cambria | Estyn". www.estyn.gov.wales. Cyrchwyd 2021-03-24.
  6. "Cymraeg i Oedolion > Coleg Cambria". Coleg Cambria. Cyrchwyd 2023-05-23.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]