Llannerch Banna

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Penley)
Llannerch Banna
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDe Maelor Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.95°N 2.88°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ414399 Edit this on Wikidata
Map
Am leoedd eraill o'r enw "Llannerch", gweler Llannerch.

Pentref bychan yng nhymuned De Maelor ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Llannerch Banna[1] (Saesneg: Penley).[2] Gorwedd yn ardal Wrecsam Maelor, ar briffordd yr A539 tua hanner y ffordd rhwng Llangollen a'r Eglwys Wen. Saif bron ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Ymddengys ei fod yn cymryd ei enw o Penda, brenin Mersia yn y 7g.

Gorwedd Llannerch Banna yn hen gwmwd Maelor Saesneg, ac roedd yn rhan o'r hen Sir y Fflint cyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974. Mae yno ysgol gynradd, Ysgol Madras, ac ysgol uwchradd, Ysgol Maelor.

Mae'n fwyaf adnabyddus am yr Ysbyty Pwylaidd, a sefydlwyd wedi'r Ail Ryfel Byd ar gyfer cyn-filwyr Pwylaidd a'u teuluoedd. Tua dechrau'r 1950au roedd dros 2,000 o gleifion a staff yno, ond lleihaodd y nifer, a chaewyd yr ysbyty yn mis Mawrth 2002.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Gorffennaf 2022