Christmas Evans

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Christmas Evans
William Roos - Christmas Evans (1835).jpg
Ganwyd 25 Rhagfyr 1766 Edit this on Wikidata
Llandysul Edit this on Wikidata
Bu farw 1838 Edit this on Wikidata
Cenedl Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth gweinidog, gwleidydd Edit this on Wikidata
Christmas Evans (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Un o bregethwyr mawr y Bedyddwyr oedd Christmas Evans (25 Rhagfyr 1766 - 19 Gorffennaf 1838).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei eni mewn bwthyn bychan o'r enw Esgair Wen, yn Nyffryn Lynod nepell o bentref Tre-groes, plwyf Llandysul, Sir Gaerfyrddin.[1]

Roedd yn fab i Samuel a Joanna Evans. Crydd o Llangeler oedd ei dad ac er na chafodd Christmas addysg ffurfiol, dysgodd ddarllen yng nghapel Llwynrhydowen ac wedyn aeth i ysgol David Dafis yng Nghastellhywel. Symudodd i Ynys Môn yn 1791 a bu'n byw yno ac yn pregethu ledled yr ynys am 35 mlynedd.

Cyfansoddodd nifer o emynau adnabyddus, e.e. "Dwy fflam ar ben Calfaria" a "Rhwn sy'n gyrru'r mellt i hedeg".

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir cofiannau iddo gan E.P. Hood (1881) a B.A. Ramsbottom (1985).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Shenton, Tim [2001]. "1", Christmas Evans - The life and times of the one-eyed preacher of Wales (Clawr caled) (yn Saesneg), Evangelical Press, tud. 44-45. ISBN 0-85234-483-X .

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.