J. R. Jones, Ramoth
J. R. Jones, Ramoth | |
---|---|
Ganwyd | 13 Hydref 1765 ![]() Llanuwchllyn ![]() |
Bu farw | 27 Mehefin 1822 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr a sylfaenydd enwad y Bedyddwyr Albanaidd yng Nghymru oedd John Richard Jones, mwy adnabyddus fel J. R. Jones, Ramoth (13 Hydref 1765 - 27 Mehefin 1822). Roedd yn un o bregethwyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod.[1]
Bywyd a gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganed ef ym Mryn Melyn ym mhlwyf Llanuwchllyn, Meirionnydd. Roedd yn aelod o enwad yr Annibynwyr yn Llanuwchllyn, ond trôdd at y Bedyddwyr yn 1788. Ordeiniwyd ef yn 1789, a daeth yn weinidog yn Ramoth, Llanfrothen (canolfan Bedyddwyr Meirion) a'i changhennau. Ystyriid ef yn un o bregethwyr mwyaf blaenllaw y Bedyddwyr.
Dylanwadwyd arno yn fawr gan weithiau Archibald Maclean o'r Alban, ac yn 1798 gadawodd y Bedyddwyr Cymreig a ffurfio ei enwad ei hun, y Bedyddwyr Albanaidd. Bu'n gweinidogaethu i'r enwad newydd am y gweddill o'i oes. Cyhoeddodd tri chasgliad o emynau, yn cynnwys ei emynau ei hun, a dau lyfr ar ddysgeidiaeth ei enwad.
Cymerodd ran ym mywyd diwylliannol gogledd-orllewin Cymru fel cerddor, bardd ac athro beirdd. Roedd ei ddisgyblion barddol yn cynnwys Robert Thomas (Ap Vychan), Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn o Eifion.Roedd yn un o bregethwyr mwyaf dylanwadol ei gyfnod.[1]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Ceir cofiannau iddo gan David Davies (1913) a James Idwal Jones (1966).
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]