C.P.D. Tref Llangefni

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o C.P.D. Llangefni)
C.P.D. Tref Llangefni
Enw llawn Clwb Pêl-droed Tref Llangefni
Llysenw(au) Cefni
Sefydlwyd 1897
Maes Lôn Talwrn
Cynghrair Cynghrair Undebol y Gogledd

Clwb pêl-droed o dref Llangefni, Ynys Môn ydy Clwb Pêl-droed Tref Llangefni (Saesneg: Llangefni Town Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol y Gogledd, sef ail adran gogledd Cymru; trydydd rheng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Ffurfiwyd y clwb ym 1897[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar faes Lôn Talwrn.Mae Clwb Pel Droed Tref Llangefni 16 yn y cynghyrair allan o 17

Hanes[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd y clwb ym 1897[1] ac roeddent yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Môn ym 1897-98[2]. Ym 1987-88, wedi 90 mlynedd yn y gynghrair, ac er iddynt orffen y tymor tua gwaelodion yr Ail Adran o Gynghrair Môn[3] penderfynodd y clwb geisio am aelodaeth o Gynghrair Gwynedd ar gyfer tymor 1988-89. Llwyddodd y clwb i ennill y Bencampwriaeth yn eu tymor cyntaf ym 1988-89 ac eto ym 1989-90[4][5] cyn sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol y Gogledd.

Llwyddodd y clwb i gipio Bencampwriaeth Cynghrair Undebol y Gogledd yn eu tymor cyntaf[6] ac ar ôl ennill y Gynghrair am y pedwerydd tro ym 1998-99[7] cafwyd ddyrchafiad i'r Gynghrair Undebol.

Yn 2006-07, llwyddodd Llangefni i gipio'r Bencampwriaeth[8] a sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru, ond cafwyd tymor anodd gyda'r clwb yn disgyn yn syth yn ôl i lawr i'r Gynghrair Undebol wedi tymor yn unig yn y brif adran[9]. Ar ôl disgyn yn ôl i'r ail adran aeth y clwb drwy trafferth ariannol a fe gychwynnodd y clwb eto yng Nghynghrair Ynys Môn. Cododd y clwb I fyny y cynghreiriau o dan y rheolwr presennol Chris Roberts.

Ar 9 Rhagfyr 2018 enillodd Llangefni gêm yn 3ydd rownd Cwpan Cymru yn erbyn Llanelli o Uwch Gynghrair Cymru.[10] Y sgôr oedd 1-0, gydag Alan Mark Owen yn sgorio'r unig gôl.[11] Yn yr un tymor llwyddodd y clwb I enill cynghrair Welsh Alliance a'r Cookson Cup. Yn ystod tymor 2019/20 fu Llangefni yn chwarae yn y JD Cymru North.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Llangefni Town History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Anglesey League: 1897-98". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Anglesey League: 1987-88". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Gwynedd League: 1988-89". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Gwynedd League: 1989-90". Unknown parameter |published= ignored (help)
  6. "Welsh Alliance League: 1990-91". Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Welsh Alliance League: 1998-99". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "CymruAlliance: 2007-07". Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Welsh Premier Tables 2008-08". Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. http://www.faw.cymru/en/news/llangefni-shock-llanelli-jd-welsh-cup-third-round/
  11. https://twitter.com/sgorio/status/1071721409976655873