Moelfre (Rhinogydd)

Oddi ar Wicipedia
Moelfre
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Uwch y môr589 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8013°N 4.0392°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6262324592 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd162 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaY Llethr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddRhinogydd Edit this on Wikidata
Map
Mae'r mynydd hwn yn rhan o fynyddoedd Rhinogau; am fynyddoedd eraill o'r un enw gweler yma.

Mae Moelfre yn gopa mynydd a geir yn y Rhinogydd rhwng y Bermo a Betws-y-Coed a'r Bala; cyfeiriad grid SH626245. Saif tua thair milltir o bentref Dyffryn Ardudwy a 10 milltir o Harlech - ar ochr orllewinol y Rhinogau, gyda chopaon Y Llethr a Diffwys i'r dwyrain ohono. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 427metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd) a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 589m (1932tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 30 Mehefin 2007.

Ceir chwedl o'r ardal yma am dri pherson a weithiodd ar y Sabath ac a gosbwyd trwy eu troi'n dri maen hir.

Delweddau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato