Elen Gwdman

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Elen Gwdman
Ganwyd 16G Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Prydyddes o Ynys Môn oedd Elen Gwdman (fl. 1609). Ychydig iawn a wyddys amdani. Tybir ei bod yn perthyn i is-gangen o deulu'r Woods o ardal Tal-y-llyn, yng ngogledd-orllewin Môn.[1] Mae hi'n enghraifft brin o fardd o ferch yn y cyfnod modern cynnar.

Dim ond un gerdd ganddi sydd wedi goroesi, ond mae ei chrefft sicr yn dangos bod Elen yn arfer cyfansoddi barddoniaeth. Anghyffredin iawn hefyd yw testun y gerdd, sy'n gân serch ddi-flewyn ar dafod i ddyn ifanc o'r enw Edward Wyn (m. 1637) o Fodewryd. Ymddengys fod Edward yn rhy fonheddig i ferch o statws cymdeithasol Elen ac aflwyddianus fu ei charwriaeth. Cwyna Elen am ei anffawd ar ôl i Edward orfod priodi merch arall oedd yn gymar mwy addas iddo.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Unig gerdd Elen Gwdman: Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, Cyfrol I (Cyhoeddiadau Barddas, 1993), cerdd 9.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, Cyfrol I (Cyhoeddiadau Barddas, 1993).