Mona Antiqua Restaurata

Oddi ar Wicipedia
Tudalen deitl argraffiad cyntaf Mona Antiqua Restaurata (Dulyn, 1723)

Cyfrol ddylanwadol gan y clerigwr Anglicanaidd a hynafiaethydd Henry Rowlands (1655–1723) yw Mona Antiqua Restaurata, a gyhoeddwyd yn Nulyn yn 1723, gydag ail argraffiad yn 1766. Mae'r llyfr yn trafod hynafiaethau Ynys Môn ac yn ceisio profi mai Môn oedd prif sedd y Derwyddon.

Ysbrydolwyd Rowlands i ysgrifennu'r llyfr ar ôl myfyrio am flynyddoedd ar arwyddocad yr henebion cynhanesyddol niferus sydd ar Fôn. Ym marn yr awdur roeddynt yn brawf o bwysigrwydd yr ynys yng nghrefydd y Derwyddon, ac yn y gyfrol mae'n olrhain hanes Môn o'r Dilyw hyd amser y Celtiaid. Gyda llawer o ddychymyg a chan datblygu rhai o ddamcaniaethau ieithyddol ffasiynol ei oes, mae'n ceisio profi fod y Gymraeg yn tarddu o'r Hebraeg ac yn cyflwyno'r Derwyddon fel math o batriarchiaid cyntefig. Ceir disgrifiadau o sawl heneb "derwyddol" ar yr ynys sy'n cael eu cysylltu â defodau tybiedig y Derwyddon. Credai Rowlands fod y ymadrodd 'Môn Mam Cymru' yn tarddu o'r ffaith fod yr ynys wedi bod yn brif ganolfan Gristnogol Cymru yn y cyfnod cynnar hefyd, gan etifeddu ac addasu athroniaeth y Derwyddon.

Bu Rowlands yn llythyru ag Edward Lhuyd ynglŷn ag agweddau ieithyddol yn ei waith a cheir detholiad o rai o lythyrau Lhuyd yn atodiad i'r llyfr. Ceir hefyd restrau o uchel siryddion Môn, ei haelodau seneddol, a'i hoffeiriaid plwyf.

Er nad yw'r damcaniaethau a geir ym Mona Antiqua Restaurata yn cael eu derbyn heddiw, mae'r llyfr yn bwysig iawn i hanesyddion y 18g am ei fod yn dangos sut yr oedd y Cymry, ac eraill, yn gweld hanes cynnar Cymru a'r Celtiaid. Bu'n llyfr hynod ddylanwadol a liwiodd farn a dychymyg sawl cenhedlaeth o ysgolheigion, hynafiaethwyr, beirdd a llenorion ac a chwaraeodd ran bwysig yn nadeni'r 18g yng Nghymru.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Testun[golygu | golygu cod]

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • C. L. Hulbert Powell, 'Some notes on Henry Rowland's Mona Antiqua Restaurata,' yn Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr.. Môn (1952)
  • Brynley F. Roberts, 'Henry Rowlands' yn, Bedwyr Lewis Jones (gol.), Gwŷr Môn (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]